Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 5:7-25 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Y maestrefi a ddarfuant yn Israel: darfuant, nes i mi, Debora, gyfodi; nes i mi gyfodi yn fam yn Israel.

8. Dewisasant dduwiau newyddion; yna rhyfel oedd yn y pyrth: a welwyd tarian na gwaywffon ymysg deugain mil yn Israel?

9. Fy nghalon sydd tuag at ddeddfwyr Israel, y rhai fu ewyllysgar ymhlith y bobl. Bendithiwch yr Arglwydd.

10. Y rhai sydd yn marchogaeth ar asynnod gwynion, y rhai sydd yn eistedd mewn barn, ac yn rhodio ar hyd y ffordd, lleferwch.

11. Y rhai a waredwyd rhag trwst y saethyddion yn y lleoedd y tynnir dwfr; yno yr adroddant gyfiawnderau yr Arglwydd, cyfiawnderau tuag at y trefydd yn Israel: yna pobl yr Arglwydd a ânt i waered i'r pyrth.

12. Deffro, deffro, Debora; deffro, deffro; traetha gân: cyfod, Barac, a chaethgluda dy gaethglud, O fab Abinoam.

13. Yna y gwnaeth i'r hwn a adewir lywodraethu ar bendefigion y bobl: yr Arglwydd a roddes i mi lywodraeth ar gedyrn.

14. O Effraim yr oedd eu gwreiddyn hwynt yn erbyn Amalec; ar dy ôl di, Benjamin, ymysg dy bobl: y deddfwyr a ddaeth i waered o Machir, yr ysgrifenyddion o Sabulon.

15. A thywysogion Issachar oedd gyda Debora; ie, Issachar, a Barac: efe a anfonwyd ar ei draed i'r dyffryn. Am neilltuaeth Reuben yr oedd mawr ofal calon.

16. Paham yr arhosaist rhwng y corlannau, i wrando brefiadau y defaid? Am neilltuaeth Reuben yr oedd mawr ofal calon.

17. Gilead a drigodd o'r tu hwnt i'r Iorddonen: a phaham yr erys Dan mewn llongau? Aser a drigodd wrth borthladd y môr, ac a arhosodd ar ei adwyau.

18. Pobl Sabulon a roddes eu heinioes i farw; felly Nafftali ar uchelfannau y maes.

19. A brenhinoedd a ddaethant, ac a ymladdasant; yna brenhinoedd Canaan a ymladdasant yn Taanach, wrth ddyfroedd Megido; ni chymerasant elw o arian.

20. O'r nefoedd yr ymladdasant; y sêr yn eu graddau a ymladdodd yn erbyn Sisera.

21. Afon Cison a'u hysgubodd hwynt; yr hen afon, yr afon Cison. Fy enaid, ti a sethraist gadernid.

22. Yna y drylliodd carnau y meirch gan garlamau, carlamau ei gryfion ef.

23. Melltigwch Meros, eb angel yr Arglwydd, gan felltigo melltigwch ei thrigolion: am na ddaethant yn gynhorthwy i'r Arglwydd, yn gynhorthwy i'r Arglwydd yn erbyn y cedyrn.

24. Bendithier Jael, gwraig Heber y Cenead, goruwch gwragedd; bendithier hi goruwch gwragedd yn y babell.

25. Dwfr a geisiodd efe, llaeth a roddes hithau: mewn ffiol ardderchog y dug hi ymenyn.

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 5