20. O'r nefoedd yr ymladdasant; y sêr yn eu graddau a ymladdodd yn erbyn Sisera.
21. Afon Cison a'u hysgubodd hwynt; yr hen afon, yr afon Cison. Fy enaid, ti a sethraist gadernid.
22. Yna y drylliodd carnau y meirch gan garlamau, carlamau ei gryfion ef.
23. Melltigwch Meros, eb angel yr Arglwydd, gan felltigo melltigwch ei thrigolion: am na ddaethant yn gynhorthwy i'r Arglwydd, yn gynhorthwy i'r Arglwydd yn erbyn y cedyrn.
24. Bendithier Jael, gwraig Heber y Cenead, goruwch gwragedd; bendithier hi goruwch gwragedd yn y babell.
25. Dwfr a geisiodd efe, llaeth a roddes hithau: mewn ffiol ardderchog y dug hi ymenyn.