17. Gilead a drigodd o'r tu hwnt i'r Iorddonen: a phaham yr erys Dan mewn llongau? Aser a drigodd wrth borthladd y môr, ac a arhosodd ar ei adwyau.
18. Pobl Sabulon a roddes eu heinioes i farw; felly Nafftali ar uchelfannau y maes.
19. A brenhinoedd a ddaethant, ac a ymladdasant; yna brenhinoedd Canaan a ymladdasant yn Taanach, wrth ddyfroedd Megido; ni chymerasant elw o arian.
20. O'r nefoedd yr ymladdasant; y sêr yn eu graddau a ymladdodd yn erbyn Sisera.
21. Afon Cison a'u hysgubodd hwynt; yr hen afon, yr afon Cison. Fy enaid, ti a sethraist gadernid.
22. Yna y drylliodd carnau y meirch gan garlamau, carlamau ei gryfion ef.
23. Melltigwch Meros, eb angel yr Arglwydd, gan felltigo melltigwch ei thrigolion: am na ddaethant yn gynhorthwy i'r Arglwydd, yn gynhorthwy i'r Arglwydd yn erbyn y cedyrn.
24. Bendithier Jael, gwraig Heber y Cenead, goruwch gwragedd; bendithier hi goruwch gwragedd yn y babell.
25. Dwfr a geisiodd efe, llaeth a roddes hithau: mewn ffiol ardderchog y dug hi ymenyn.
26. Ei llaw a estynnodd hi at yr hoel, a'i llaw ddeau at forthwyl y gweithwyr: a hi a bwyodd Sisera, ac a dorrodd ei ben ef; gwanodd hefyd, a thrywanodd ei arlais ef.
27. Wrth ei thraed yr ymgrymodd efe; syrthiodd, gorweddodd: wrth ei thraed yr ymgrymodd efe, y syrthiodd: lle yr ymgrymodd, yno y syrthiodd yn farw.
28. Mam Sisera a edrychodd trwy ffenestr, ac a waeddodd trwy'r dellt, Paham yr oeda ei gerbyd ddyfod? paham yr arafodd olwynion ei gerbydau?
29. Ei harglwyddesau doethion a'i hatebasant; hithau hefyd a atebodd iddi ei hun,
30. Oni chawsant hwy? oni ranasant yr anrhaith, llances neu ddwy i bob gŵr? anrhaith o wisgoedd symudliw i Sisera, anrhaith o wniadwaith symudliw, symudliw o wniadwaith o'r ddeutu, cymwys i yddfau yr anrheithwyr?
31. Felly y darfyddo am dy holl elynion, O Arglwydd: a bydded y rhai a'i hoffant ef fel yr haul yn myned rhagddo yn ei rym. A'r wlad a gafodd lonydd ddeugain mlynedd.