Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 3:8-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. Am hynny dicllonedd yr Arglwydd a lidiodd yn erbyn Israel; ac efe a'u gwerthodd hwynt i law Cusan‐risathaim, brenin Mesopotamia: a meibion Israel a wasanaethasant Cusan‐risathaim wyth mlynedd.

9. A meibion Israel a waeddasant ar yr Arglwydd: a'r Arglwydd a gododd achubwr i feibion Israel, yr hwn a'u hachubodd hwynt; sef Othniel mab Cenas, brawd Caleb, ieuangach nag ef.

10. Ac ysbryd yr Arglwydd a ddaeth arno ef, ac efe a farnodd Israel, ac a aeth allan i ryfel: a'r Arglwydd a roddodd yn ei law ef Cusan‐risathaim, brenin Mesopotamia; a'i law ef oedd drech na Cusan‐risathaim.

11. A'r wlad a gafodd lonydd ddeugain mlynedd. A bu farw Othniel mab Cenas.

12. A meibion Israel a chwanegasant wneuthur yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd: a'r Arglwydd a nerthodd Eglon brenin Moab yn erbyn Israel, am iddynt wneuthur drygioni yng ngolwg yr Arglwydd.

13. Ac efe a gasglodd ato feibion Ammon, ac Amalec, ac a aeth ac a drawodd Israel; a hwy a feddianasant ddinas y palmwydd.

14. Felly meibion Israel a wasanaethasant Eglon brenin Moab ddeunaw mlynedd.

15. Yna meibion Israel a lefasant ar yr Arglwydd: a'r Arglwydd a gododd achubwr iddynt; sef Ehwd mab Gera, fab Jemini, gŵr llawchwith: a meibion Israel a anfonasant anrheg gydag ef i Eglon brenin Moab.

16. Ac Ehwd a wnaeth iddo ddager ddaufiniog o gufydd ei hyd, ac a'i gwregysodd dan ei ddillad, ar ei glun ddeau.

17. Ac efe a ddug yr anrheg i Eglon brenin Moab. Ac Eglon oedd ŵr tew iawn.

18. A phan ddarfu iddo ef gyflwyno yr anrheg, efe a ollyngodd ymaith y bobl a ddygasai yr anrheg.

19. Ond efe ei hun a drodd oddi wrth y chwarelau oedd yn Gilgal, ac a ddywedodd, Y mae i mi air o gyfrinach â thi, O frenin. Dywedodd yntau, Gosteg. A'r holl rai oedd yn sefyll yn ei ymyl ef a aethant allan oddi wrtho ef.

20. Ac Ehwd a ddaeth i mewn ato ef: ac yntau oedd yn eistedd mewn ystafell haf, yr hon oedd iddo ef ei hunan. A dywedodd Ehwd, Gair oddi wrth Dduw sydd gennyf atat ti. Ac efe a gyfododd oddi ar ei orseddfa.

21. Ac Ehwd a estynnodd ei law aswy, ac a gymerth y ddager oddi ar ei glun ddeau, ac a'i brathodd hi yn ei boten ef:

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 3