20. Ac Ehwd a ddaeth i mewn ato ef: ac yntau oedd yn eistedd mewn ystafell haf, yr hon oedd iddo ef ei hunan. A dywedodd Ehwd, Gair oddi wrth Dduw sydd gennyf atat ti. Ac efe a gyfododd oddi ar ei orseddfa.
21. Ac Ehwd a estynnodd ei law aswy, ac a gymerth y ddager oddi ar ei glun ddeau, ac a'i brathodd hi yn ei boten ef:
22. A'r carn a aeth i mewn ar ôl y llafn, a'r braster a ymgaeodd am y llafn, fel na allai dynnu y ddager allan o'i boten; a'r dom a ddaeth allan.
23. Yna Ehwd a aeth allan trwy'r cyntedd, ac a gaeodd ddrysau yr ystafell arno, ac a'u clodd.
24. Pan aeth efe ymaith, ei weision a ddaethant: a phan welsant, wele, fod drysau yr ystafell yn gloëdig, hwy a ddywedasant, Diau esmwytháu ei gorff y mae efe yn yr ystafell haf.
25. A hwy a ddisgwyliasant, nes cywilyddio ohonynt: ac wele, nid oedd efe yn agori drysau yr ystafell. Yna hwy a gymerasant agoriad, ac a agorasant: ac wele eu harglwydd hwy wedi cwympo i lawr yn farw.
26. Ac Ehwd a ddihangodd, tra fuant hwy yn aros; ac efe a aeth y tu hwnt i'r chwarelau, ac a ddihangodd i Seirath.
27. A phan ddaeth, efe a utganodd mewn utgorn ym mynydd Effraim: a meibion Israel a ddisgynasant gydag ef o'r mynydd, ac yntau o'u blaen hwynt.
28. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Canlynwch fi: canys yr Arglwydd a roddodd eich gelynion chwi, sef Moab, yn eich llaw chwi. A hwy a aethant i waered ar ei ôl ef, ac a enillasant rydau yr Iorddonen tua Moab, ac ni adawsant i neb fyned drwodd.
29. A hwy a drawsant o'r Moabiaid y pryd hwnnw ynghylch deng mil o wŷr, pawb yn rymus, a phawb yn wŷr nerthol; ac ni ddihangodd neb.
30. Felly y darostyngwyd Moab y dwthwn hwnnw dan law Israel. A'r wlad a gafodd lonydd bedwar ugain mlynedd.
31. Ac ar ei ôl ef y bu Samgar mab Anath; ac efe a drawodd o'r Philistiaid chwe channwr ag irai ychen: yntau hefyd a waredodd Israel.