7. Beth a wnawn ni am wragedd i'r rhai a adawyd, gan dyngu ohonom ni i'r Arglwydd, na roddem iddynt yr un o'n merched ni yn wragedd?
8. Dywedasant hefyd, Pa un o lwythau Israel ni ddaeth i fyny at yr Arglwydd i Mispa? Ac wele, ni ddaethai neb o Jabes Gilead i'r gwersyll, at y gynulleidfa.
9. Canys y bobl a gyfrifwyd; ac wele, nid oedd yno neb o drigolion Jabes Gilead.
10. A'r gynulleidfa a anfonasant yno ddeuddeng mil o wŷr grymus; ac a orchmynasant iddynt, gan ddywedyd, Ewch a threwch breswylwyr Jabes Gilead â min y cleddyf, y gwragedd hefyd a'r plant.
11. Dyma hefyd y peth a wnewch chwi: Difethwch bob gwryw, a phob gwraig a orweddodd gyda gŵr.
12. A hwy a gawsant ymhlith trigolion Jabes Gilead, bedwar cant o lancesau yn wyryfon, y rhai nid adnabuasent ŵr trwy gydorwedd â gŵr: a dygasant hwynt i'r gwersyll i Seilo, yr hon sydd yng ngwlad Canaan.
13. A'r holl gynulleidfa a anfonasant i lefaru wrth feibion Benjamin, y rhai oedd yng nghraig Rimmon, ac i gyhoeddi heddwch iddynt.
14. A'r Benjaminiaid a ddychwelasant yr amser hwnnw; a hwy a roddasant iddynt hwy y gwragedd a gadwasent yn fyw o wragedd Jabes Gilead: ond ni chawsant hwy ddigon felly.
15. A'r bobl a edifarhaodd dros Benjamin, oherwydd i'r Arglwydd wneuthur rhwygiad yn llwythau Israel.
16. Yna henuriaid y gynulleidfa a ddywedasant, Beth a wnawn ni am wragedd i'r lleill, gan ddistrywio y gwragedd o Benjamin?
17. Dywedasant hefyd, Rhaid yw bod etifeddiaeth i'r rhai a ddihangodd o Benjamin, fel na ddileer llwyth allan o Israel.
18. Ac ni allwn ni roddi iddynt wragedd o'n merched ni: canys meibion Israel a dyngasant, gan ddywedyd, Melltigedig fyddo yr hwn a roddo wraig i Benjamin.
19. Yna y dywedasant, Wele, y mae gŵyl i'r Arglwydd bob blwyddyn yn Seilo, o du y gogledd i Bethel, tua chyfodiad haul i'r briffordd y sydd yn myned i fyny o Bethel i Sichem, ac o du y deau i Libanus.
20. Am hynny y gorchmynasant hwy i feibion Benjamin, gan ddywedyd, Ewch a chynllwynwch yn y gwinllannoedd: