36. Felly meibion Benjamin a welsant mai eu lladd yr oeddid: canys gwŷr Israel a roddasant le i'r Benjaminiaid; oherwydd hyderu yr oeddynt ar y cynllwynwyr, y rhai a osodasent yn ymyl Gibea.
37. A'r cynllwynwyr a frysiasant, ac a ruthrasant ar Gibea: a'r cynllwynwyr a utganasant yn hirllaes, ac a drawsant yr holl ddinas â min y cleddyf.
38. Ac yr oedd amser nodedig rhwng gwŷr Israel a'r cynllwynwyr; sef peri ohonynt i fflam fawr a mwg ddyrchafu o'r ddinas.
39. A phan drodd gwŷr Israel eu cefnau yn y rhyfel, Benjamin a ddechreuodd daro yn archolledig o wŷr Israel ynghylch dengwr ar hugain: canys dywedasant, Diau gan daro eu taro hwynt o'n blaen ni, fel yn y cyntaf.
40. A phan ddechreuodd y fflam ddyrchafu o'r ddinas â cholofn o fwg, Benjamin a edrychodd yn ei ôl; ac wele fflam y ddinas yn dyrchafu i'r nefoedd.
41. Yna gwŷr Israel a droesant drachefn; a gwŷr Benjamin a frawychasant: oherwydd hwy a ganfuant fod drwg wedi dyfod arnynt.
42. Am hynny hwy a droesant o flaen gwŷr Israel, tua ffordd yr anialwch; a'r gad a'u goddiweddodd hwynt: a'r rhai a ddaethai o'r dinasoedd, yr oeddynt yn eu difetha yn eu canol.
43. Felly yr amgylchynasant y Benjaminiaid; erlidiasant hwynt, a sathrasant hwynt yn hawdd hyd yng nghyfer Gibea, tua chodiad haul.
44. A lladdwyd o Benjamin dair mil ar bymtheg o wŷr: y rhai hyn oll oedd wŷr nerthol.
45. A hwy a droesant, ac a ffoesant tua'r anialwch i graig Rimmon. A'r Israeliaid a loffasant ohonynt ar hyd y priffyrdd, bum mil o wŷr: erlidiasant hefyd ar eu hôl hwynt hyd Gidom, ac a laddasant ohonynt ddwy fil o wŷr.
46. A'r rhai oll a gwympodd o Benjamin y dwthwn hwnnw, oedd bum mil ar hugain o wŷr yn tynnu cleddyf: hwynt oll oedd wŷr nerthol.
47. Eto chwe channwr a droesant, ac a ffoesant i'r anialwch i graig Rimmon, ac a arosasant yng nghraig Rimmon bedwar mis.
48. A gwŷr Israel a ddychwelasant ar feibion Benjamin, ac a'u trawsant hwy â min y cleddyf, yn ddyn o bob dinas, ac yn anifail, a pheth bynnag a gafwyd: yr holl ddinasoedd hefyd a'r a gafwyd, a losgasant hwy â thân.