2. A phenaethiaid yr holl bobl, o holl lwythau Israel, a safasant yng nghynulleidfa pobl Dduw; sef pedwar can mil o wŷr traed yn tynnu cleddyf.
3. (A meibion Benjamin a glywsant fyned o feibion Israel i Mispa.) Yna meibion Israel a ddywedasant, Dywedwch, pa fodd y bu y drygioni hyn?
4. A'r gŵr y Lefiad, gŵr y wraig a laddesid, a atebodd ac a ddywedodd, I Gibea eiddo Benjamin y deuthum i, mi a'm gordderch, i letya.
5. A gwŷr Gibea a gyfodasant i'm herbyn, ac a amgylchynasant y tŷ yn fy erbyn liw nos, ac a amcanasant fy lladd i; a threisiasant fy ngordderch, fel y bu hi farw.
6. A mi a ymeflais yn fy ngordderch, ac a'i derniais hi, ac a'i hanfonais hi trwy holl wlad etifeddiaeth Israel: canys gwnaethant ffieidd‐dra ac ynfydrwydd yn Israel.
7. Wele, meibion Israel ydych chwi oll; moeswch rhyngoch air a chyngor yma.
8. A'r holl bobl a gyfododd megis un gŵr, gan ddywedyd, Nac eled neb ohonom i'w babell, ac na throed neb ohonom i'w dŷ.
9. Ond yn awr, hyn yw y peth a wnawn ni i Gibea: Nyni a awn i fyny i'w herbyn wrth goelbren;
10. A ni a gymerwn ddengwr o'r cant trwy holl lwythau Israel, a chant o'r mil, a mil o'r deng mil, i ddwyn lluniaeth i'r bobl; i wneuthur, pan ddelont i Gibea Benjamin, yn ôl yr holl ffieidd‐dra a wnaethant hwy yn Israel.
11. Felly yr ymgasglodd holl wŷr Israel yn erbyn y ddinas yn gytûn fel un gŵr.
12. A llwythau Israel a anfonasant wŷr trwy holl lwythau Benjamin, gan ddywedyd, Beth yw y drygioni yma a wnaethpwyd yn eich mysg chwi?
13. Ac yn awr rhoddwch y gwŷr, meibion Belial, y rhai sydd yn Gibea, fel y lladdom hwynt, ac y dileom ddrygioni o Israel. Ond ni wrandawai meibion Benjamin ar lais eu brodyr meibion Israel:
14. Eithr meibion Benjamin a ymgynullasant o'r dinasoedd i Gibea, i fyned allan i ryfel yn erbyn meibion Israel.
15. A chyfrifwyd meibion Benjamin y dydd hwnnw, o'r dinasoedd, yn chwe mil ar hugain o wŷr yn tynnu cleddyf, heblaw trigolion Gibea, y rhai a gyfrifwyd yn saith gant o wŷr etholedig.