19. A meibion Israel a gyfodasant y bore, ac a wersyllasant yn erbyn Gibea.
20. A gwŷr Israel a aethant allan i ryfel yn erbyn Benjamin; a gwŷr Israel a ymosodasant i ymladd i'w herbyn hwy wrth Gibea.
21. A meibion Benjamin a ddaethant allan o Gibea, ac a ddifethasant o Israel y dwthwn hwnnw ddwy fil ar hugain o wŷr hyd lawr.
22. A'r bobl gwŷr Israel a ymgryfhasant, ac a ymosodasant drachefn i ymladd, yn y lle yr ymosodasent ynddo y dydd cyntaf.
23. (A meibion Israel a aethent i fyny, ac a wylasent gerbron yr Arglwydd hyd yr hwyr: ymgyngorasent hefyd â'r Arglwydd, gan ddywedyd, A af fi drachefn i ryfel yn erbyn meibion Benjamin fy mrawd? A dywedasai yr Arglwydd, Dos i fyny yn ei erbyn ef.)
24. A meibion Israel a nesasant yn erbyn meibion Benjamin yr ail ddydd.
25. A Benjamin a aeth allan o Gibea i'w herbyn hwythau yr ail ddydd; a hwy a ddifethasant o feibion Israel eilwaith dair mil ar bymtheg o wŷr hyd lawr: y rhai hyn oll oedd yn tynnu cleddyf.
26. Yna holl feibion Israel a'r holl bobl a aethant i fyny ac a ddaethant i dŷ Dduw, ac a wylasant, ac a arosasant yno gerbron yr Arglwydd, ac a ymprydiasant y dwthwn hwnnw hyd yr hwyr, ac a offrymasant boethoffrymau ac offrymau hedd gerbron yr Arglwydd.
27. A meibion Israel a ymgyngorasant â'r Arglwydd, (canys yno yr oedd arch cyfamod Duw yn y dyddiau hynny;
28. A Phinees mab Eleasar, mab Aaron, oedd yn sefyll ger ei bron hi yn y dyddiau hynny;) gan ddywedyd, A chwanegaf fi mwyach fyned allan i ryfel yn erbyn meibion Benjamin fy mrawd, neu a beidiaf fi? A dywedodd yr Arglwydd, Ewch i fyny; canys yfory y rhoddaf ef yn dy law di.
29. Ac Israel a osododd gynllwynwyr o amgylch Gibea.