Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 20:12-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. A llwythau Israel a anfonasant wŷr trwy holl lwythau Benjamin, gan ddywedyd, Beth yw y drygioni yma a wnaethpwyd yn eich mysg chwi?

13. Ac yn awr rhoddwch y gwŷr, meibion Belial, y rhai sydd yn Gibea, fel y lladdom hwynt, ac y dileom ddrygioni o Israel. Ond ni wrandawai meibion Benjamin ar lais eu brodyr meibion Israel:

14. Eithr meibion Benjamin a ymgynullasant o'r dinasoedd i Gibea, i fyned allan i ryfel yn erbyn meibion Israel.

15. A chyfrifwyd meibion Benjamin y dydd hwnnw, o'r dinasoedd, yn chwe mil ar hugain o wŷr yn tynnu cleddyf, heblaw trigolion Gibea, y rhai a gyfrifwyd yn saith gant o wŷr etholedig.

16. O'r holl bobl hyn yr oedd saith gant o wŷr etholedig yn chwithig; pob un ohonynt a ergydiai â charreg at y blewyn, heb fethu.

17. Gwŷr Israel hefyd a gyfrifwyd, heblaw Benjamin, yn bedwar can mil yn tynnu cleddyf; pawb ohonynt yn rhyfelwyr.

18. A meibion Israel a gyfodasant, ac a aethant i fyny i dŷ Dduw, ac a ymgyngorasant â Duw, ac a ddywedasant, Pwy ohonom ni a â i fyny yn gyntaf i'r gad yn erbyn meibion Benjamin? A dywedodd yr Arglwydd, Jwda a â yn gyntaf.

19. A meibion Israel a gyfodasant y bore, ac a wersyllasant yn erbyn Gibea.

20. A gwŷr Israel a aethant allan i ryfel yn erbyn Benjamin; a gwŷr Israel a ymosodasant i ymladd i'w herbyn hwy wrth Gibea.

21. A meibion Benjamin a ddaethant allan o Gibea, ac a ddifethasant o Israel y dwthwn hwnnw ddwy fil ar hugain o wŷr hyd lawr.

22. A'r bobl gwŷr Israel a ymgryfhasant, ac a ymosodasant drachefn i ymladd, yn y lle yr ymosodasent ynddo y dydd cyntaf.

23. (A meibion Israel a aethent i fyny, ac a wylasent gerbron yr Arglwydd hyd yr hwyr: ymgyngorasent hefyd â'r Arglwydd, gan ddywedyd, A af fi drachefn i ryfel yn erbyn meibion Benjamin fy mrawd? A dywedasai yr Arglwydd, Dos i fyny yn ei erbyn ef.)

24. A meibion Israel a nesasant yn erbyn meibion Benjamin yr ail ddydd.

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 20