Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 2:10-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. A'r holl oes honno hefyd a gasglwyd at eu tadau: a chyfododd oes arall ar eu hôl hwynt, y rhai nid adwaenent yr Arglwydd, na'i weithredoedd a wnaethai efe er Israel.

11. A meibion Israel a wnaethant ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd, ac a wasanaethasant Baalim:

12. Ac a wrthodasant Arglwydd Dduw eu tadau, yr hwn a'u dygasai hwynt o wlad yr Aifft, ac a aethant ar ôl duwiau dieithr, sef rhai o dduwiau y bobloedd oedd o'u hamgylch, ac a ymgrymasant iddynt, ac a ddigiasant yr Arglwydd.

13. A hwy a wrthodasant yr Arglwydd, ac a wasanaethasant Baal ac Astaroth.

14. A llidiodd dicllonedd yr Arglwydd yn erbyn Israel; ac efe a'u rhoddodd hwynt yn llaw yr anrheithwyr, y rhai a'u hanrheithiasant hwy; ac efe a'u gwerthodd hwy i law eu gelynion o amgylch, fel na allent sefyll mwyach yn erbyn eu gelynion.

15. I ba le bynnag yr aethant, llaw yr Arglwydd oedd er drwg yn eu herbyn hwynt; fel y llefarasai yr Arglwydd, ac fel y tyngasai yr Arglwydd wrthynt hwy: a bu gyfyng iawn arnynt.

16. Eto yr Arglwydd a gododd farnwyr, y rhai a'u hachubodd hwynt o law eu hanrheithwyr.

17. Ond ni wrandawent chwaith ar eu barnwyr; eithr puteiniasant ar ôl duwiau dieithr, ac ymgrymasant iddynt: ciliasant yn ebrwydd o'r ffordd y rhodiasai eu tadau hwynt ynddi, gan wrando ar orchmynion yr Arglwydd; ond ni wnaethant hwy felly.

18. A phan godai yr Arglwydd farnwyr arnynt hwy, yna yr Arglwydd fyddai gyda'r barnwr, ac a'u gwaredai hwynt o law eu gelynion holl ddyddiau y barnwr: canys yr Arglwydd a dosturiai wrth eu griddfan hwynt, rhag eu gorthrymwyr a'u cystuddwyr.

19. A phan fyddai farw y barnwr, hwy a ddychwelent, ac a ymlygrent yn fwy na'u tadau, gan fyned ar ôl duwiau dieithr, i'w gwasanaethu hwynt, ac i ymgrymu iddynt: ni pheidiasant â'u gweithredoedd eu hunain, nac â'u ffordd wrthnysig.

20. A dicllonedd yr Arglwydd a lidiai yn erbyn Israel: ac efe a ddywedai, Oblegid i'r genedl hon droseddu fy nghyfamod a orchmynnais i'w tadau hwynt, ac na wrandawsant ar fy llais;

21. Ni chwanegaf finnau yrru ymaith o'u blaen hwynt neb o'r cenhedloedd a adawodd Josua pan fu farw:

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 2