Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 19:4-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. A'i chwegrwn ef, tad y llances, a'i daliodd ef yno; ac efe a dariodd gydag ef dridiau. Felly bwytasant ac yfasant, a lletyasant yno.

5. A'r pedwerydd dydd y cyfodasant yn fore; yntau a gyfododd i fyned ymaith. A thad y llances a ddywedodd wrth ei ddaw, Nertha dy galon â thamaid o fara, ac wedi hynny ewch ymaith.

6. A hwy a eisteddasant, ac a fwytasant ill dau ynghyd, ac a yfasant. A thad y llances a ddywedodd wrth y gŵr, Bydd fodlon, atolwg, ac aros dros nos, a llawenyched dy galon.

7. A phan gyfododd y gŵr i fyned ymaith, ei chwegrwn a fu daer arno: am hynny efe a drodd ac a letyodd yno.

8. Ac efe a gyfododd yn fore y pumed dydd i fyned ymaith. A thad y llances a ddywedodd, Cysura dy galon, atolwg. A hwy a drigasant hyd brynhawn, ac a fwytasant ill dau.

9. A phan gyfododd y gŵr i fyned ymaith, efe a'i ordderch, a'i lanc; ei chwegrwn, tad y llances, a ddywedodd wrtho, Wele, yn awr, y dydd a laesodd i hwyrhau; arhoswch dros nos, atolwg: wele yr haul yn machludo; trig yma, fel y llawenycho dy galon: a chodwch yn fore yfory i'ch taith, fel yr elych i'th babell.

10. A'r gŵr ni fynnai aros dros nos; eithr cyfododd, ac a aeth ymaith: a daeth hyd ar gyfer Jebus, hon yw Jerwsalem, a chydag ef gwpl o asynnod llwythog, a'i ordderchwraig gydag ef.

11. A phan oeddynt hwy wrth Jebus, yr oedd y dydd ar ddarfod: a'r llanc a ddywedodd wrth ei feistr, Tyred, atolwg, trown i ddinas hon y Jebusiaid, a lletywn ynddi.

12. A'i feistr a ddywedodd wrtho, Ni thrown ni i ddinas estron nid yw o feibion Israel; eithr nyni a awn hyd Gibea.

13. Ac efe a ddywedodd wrth ei lanc, Tyred, a nesawn i un o'r lleoedd hyn, i letya dros nos, yn Gibea, neu Rama.

14. Felly y cerddasant, ac yr aethant: a'r haul a fachludodd arnynt wrth Gibea eiddo Benjamin.

15. A hwy a droesant yno, i fyned i mewn i letya i Gibea. Ac efe a ddaeth i mewn, ac a eisteddodd yn heol y ddinas: canys nid oedd neb a'u cymerai hwynt i'w dŷ i letya.

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 19