Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 18:26-31 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

26. A meibion Dan a aethant i'w ffordd. A phan welodd Mica eu bod hwy yn gryfach nag ef, efe a drodd, ac a ddychwelodd i'w dŷ.

27. A hwy a gymerasant y pethau a wnaethai Mica, a'r offeiriad oedd ganddo ef, ac a ddaethant i Lais, at bobl lonydd a diofal; ac a'u trawsant hwy â min y cleddyf, ac a losgasant y ddinas â thân.

28. Ac nid oedd waredydd; canys pell oedd hi oddi wrth Sidon, ac nid oedd negesau rhyngddynt a neb; hefyd yr oedd hi yn y dyffryn oedd wrth Beth‐rehob: a hwy a adeiladasant ddinas, ac a drigasant ynddi.

29. A hwy a alwasant enw y ddinas Dan, yn ôl enw Dan eu tad, yr hwn a anesid i Israel: er hynny Lais oedd enw y ddinas ar y cyntaf.

30. A meibion Dan a osodasant i fyny iddynt y ddelw gerfiedig: a Jonathan mab Gerson, mab Manasse, efe a'i feibion, fuant offeiriaid i lwyth Dan hyd ddydd caethgludiad y wlad.

31. A hwy a osodasant i fyny iddynt y ddelw gerfiedig a wnaethai Mica, yr holl ddyddiau y bu tŷ Dduw yn Seilo.

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 18