Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 16:16-31 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. Ac oherwydd ei bod hi yn ei flino ef â'i geiriau beunydd, ac yn ei boeni ef, ei enaid a ymofidiodd i farw:

17. Ac efe a fynegodd iddi ei holl galon; ac a ddywedodd wrthi, Ni ddaeth ellyn ar fy mhen i: canys Nasaread i Dduw ydwyf fi o groth fy mam. Ped eillid fi, yna y ciliai fy nerth oddi wrthyf, ac y gwanychwn, ac y byddwn fel gŵr arall.

18. A phan welodd Dalila fynegi ohono ef iddi hi ei holl galon, hi a anfonodd ac a alwodd am bendefigion y Philistiaid, gan ddywedyd, Deuwch i fyny unwaith; canys efe a fynegodd i mi ei holl galon. Yna arglwyddi'r Philistiaid a ddaethant i fyny ati hi, ac a ddygasant arian yn eu dwylo.

19. A hi a wnaeth iddo gysgu ar ei gliniau; ac a alwodd ar ŵr, ac a barodd eillio saith gudyn ei ben ef: a hi a ddechreuodd ei gystuddio ef; a'i nerth a ymadawodd oddi wrtho.

20. A hi a ddywedodd, Y mae y Philistiaid arnat ti, Samson. Ac efe a ddeffrôdd o'i gwsg, ac a ddywedodd, Af allan y waith hon fel cynt, ac ymysgydwaf. Ond ni wyddai efe fod yr Arglwydd wedi cilio oddi wrtho.

21. Ond y Philistiaid a'i daliasant ef, ac a dynasant ei lygaid ef, ac a'i dygasant ef i waered i Gasa, ac a'i rhwymasant ef â gefynnau pres; ac yr oedd efe yn malu yn y carchardy.

22. Eithr gwallt ei ben ef a ddechreuodd dyfu drachefn, ar ôl ei eillio.

23. Yna arglwyddi'r Philistiaid a ymgasglasant i aberthu aberth mawr i Dagon eu duw, ac i orfoleddu: canys dywedasant, Ein duw ni a roddodd Samson ein gelyn yn ein llaw ni.

24. A phan welodd y bobl ef, hwy a ganmolasant eu duw: canys dywedasant, Ein duw ni a roddodd ein gelyn yn ein dwylo ni, yr hwn oedd yn anrheithio ein gwlad ni, yr hwn a laddodd lawer ohonom ni.

25. A phan oedd eu calon hwynt yn llawen, yna y dywedasant, Gelwch am Samson, i beri i ni chwerthin. A hwy a alwasant am Samson o'r carchardy, fel y chwaraeai o'u blaen hwynt; a hwy a'i gosodasant ef rhwng y colofnau.

26. A Samson a ddywedodd wrth y llanc oedd yn ymaflyd yn ei law ef, Gollwng, a gad i mi gael gafael ar y colofnau y mae y tŷ yn sefyll arnynt, fel y pwyswyf arnynt.

27. A'r tŷ oedd yn llawn o wŷr a gwragedd; a holl arglwyddi'r Philistiaid oedd yno: ac ar y nen yr oedd ynghylch tair mil o wŷr a gwragedd yn edrych tra yr ydoedd Samson yn chwarae.

28. A Samson a alwodd ar yr Arglwydd, ac a ddywedodd, O Arglwydd IOR, cofia fi, atolwg, a nertha fi, atolwg, yn unig y waith hon, O Dduw, fel y dialwyf ag un dialedd ar y Philistiaid am fy nau lygad.

29. A Samson a ymaflodd yn y ddwy golofn ganol, y rhai yr oedd y tŷ yn sefyll arnynt, ac a ymgynhaliodd wrthynt, un yn ei ddeheulaw, a'r llall yn ei law aswy.

30. A dywedodd Samson, Bydded farw fy einioes gyda'r Philistiaid. Ac efe a ymgrymodd â'i holl nerth; a syrthiodd y tŷ ar y pendefigion, ac ar yr holl bobl oedd ynddo: a'r meirw y rhai a laddodd efe wrth farw, oedd fwy nag a laddasai efe yn ei fywyd.

31. A'i frodyr ef, a holl dŷ ei dad ef, a ddaethant i waered, ac a'i cymerasant ef, ac a'i dygasant i fyny, ac a'i claddasant ef rhwng Sora ac Estaol, ym meddrod Manoa ei dad. Ac efe a farnasai Israel ugain mlynedd.

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 16