Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 11:29-40 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

29. Yna y daeth ysbryd yr Arglwydd ar Jefftha; ac efe a aeth dros Gilead a Manasse; ac a aeth dros Mispa Gilead, ac o Mispa Gilead yr aeth efe drosodd at feibion Ammon.

30. A Jefftha a addunedodd adduned i'r Arglwydd, ac a ddywedodd, Os gan roddi y rhoddi di feibion Ammon yn fy llaw i;

31. Yna yr hwn a ddelo allan o ddrysau fy nhŷ i'm cyfarfod, pan ddychwelwyf mewn heddwch oddi wrth feibion Ammon, a fydd eiddo yr Arglwydd, a mi a'i hoffrymaf ef yn boethoffrwm.

32. Felly Jefftha a aeth drosodd at feibion Ammon i ymladd yn eu herbyn; a'r Arglwydd a'u rhoddodd hwynt yn ei law ef.

33. Ac efe a'u trawodd hwynt o Aroer hyd oni ddelych di i Minnith, sef ugain dinas, a hyd wastadedd y gwinllannoedd, â lladdfa fawr iawn. Felly y darostyngwyd meibion Ammon o flaen meibion Israel.

34. A Jefftha a ddaeth i Mispa i'w dŷ ei hun: ac wele ei ferch yn dyfod allan i'w gyfarfod â thympanau, ac â dawnsiau; a hi oedd ei unig etifedd ef; nid oedd ganddo na mab na merch ond hyhi.

35. A phan welodd efe hi, efe a rwygodd ei ddillad, ac ddywedodd, Ah! ah! fy merch, gan ddarostwng y darostyngaist fi; ti hefyd wyt un o'r rhai sydd yn fy molestu: canys myfi a agorais fy ngenau wrth yr Arglwydd, ac ni allaf gilio.

36. A hi a ddywedodd wrtho, Fy nhad, od agoraist dy enau wrth yr Arglwydd, gwna i mi yn ôl yr hyn a aeth allan o'th enau; gan i'r Arglwydd wneuthur drosot ti ddialedd ar dy elynion, meibion Ammon.

37. Hi a ddywedodd hefyd wrth ei thad, Gwneler i mi y peth hyn; paid â mi ddau fis, fel yr elwyf i fyny ac i waered ar y mynyddoedd, ac yr wylwyf oherwydd fy morwyndod, mi a'm cyfeillesau.

38. Ac efe a ddywedodd, Dos. Ac efe a'i gollyngodd hi dros ddau fis. A hi a aeth â'i chyfeillesau, ac a wylodd oherwydd ei morwyndod ar y mynyddoedd.

39. Ac ymhen y ddau fis hi a ddychwelodd at ei thad: ac efe a wnaeth â hi yr adduned a addunasai efe: a hi ni adnabuasai ŵr. A bu hyn yn ddefod yn Israel,

40. Fyned o ferched Israel bob blwyddyn i alaru am ferch Jefftha y Gileadiad, bedwar diwrnod yn y flwyddyn.

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 11