20. Ond nid ymddiriedodd Sehon i Israel fyned trwy ei derfyn ef: eithr Sehon a gasglodd ei holl bobl, a hwy a wersyllasant yn Jahas, ac efe a ymladdodd yn erbyn Israel.
21. Ac Arglwydd Dduw Israel a roddodd Sehon a'i holl bobl yn llaw Israel; a hwy a'u trawsant hwynt. Felly Israel a feddiannodd holl wlad yr Amoriaid, trigolion y wlad honno.
22. Meddianasant hefyd holl derfynau yr Amoriaid, o Arnon hyd Jabboc, ac o'r anialwch hyd yr Iorddonen.
23. Felly yn awr, Arglwydd Dduw Israel a fwriodd yr Amoriaid allan o flaen ei bobl Israel: gan hynny ai tydi a'i meddiannit hi?
24. Oni feddienni di yr hyn a roddo Cemos dy dduw i ti i'w feddiannu? Felly yr hyn oll a oresgynno yr Arglwydd ein Duw o'n blaen ni a feddiannwn ninnau.
25. Ac yn awr, a wyt ti yn well na Balac mab Sippor, brenin Moab? a ymrysonodd efe erioed ag Israel, neu gan ymladd a ymladdodd efe i'w herbyn hwy?
26. Pan oedd Israel yn trigo yn Hesbon a'i threfydd, ac yn Aroer a'i threfydd, ac yn yr holl ddinasoedd y rhai sydd wrth derfynau Arnon, dri chan mlynedd; paham nad achubasoch hwynt y pryd hwnnw?
27. Am hynny ni phechais i yn dy erbyn di; ond yr ydwyt ti yn gwneuthur cam â mi, gan ymladd yn fy erbyn i; yr Arglwydd Farnwr a farno heddiw rhwng meibion Israel a meibion Ammon.
28. Er hynny ni wrandawodd brenin meibion Ammon ar eiriau Jefftha, y rhai a anfonodd efe ato.
29. Yna y daeth ysbryd yr Arglwydd ar Jefftha; ac efe a aeth dros Gilead a Manasse; ac a aeth dros Mispa Gilead, ac o Mispa Gilead yr aeth efe drosodd at feibion Ammon.
30. A Jefftha a addunedodd adduned i'r Arglwydd, ac a ddywedodd, Os gan roddi y rhoddi di feibion Ammon yn fy llaw i;
31. Yna yr hwn a ddelo allan o ddrysau fy nhÅ· i'm cyfarfod, pan ddychwelwyf mewn heddwch oddi wrth feibion Ammon, a fydd eiddo yr Arglwydd, a mi a'i hoffrymaf ef yn boethoffrwm.
32. Felly Jefftha a aeth drosodd at feibion Ammon i ymladd yn eu herbyn; a'r Arglwydd a'u rhoddodd hwynt yn ei law ef.