Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 11:1-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A Jefftha y Gileadiad oedd ŵr cadarn nerthol, ac efe oedd fab i wraig o buteinwraig: a Gilead a genedlasai y Jefftha hwnnw.

2. A gwraig Gilead a ymddûg iddo feibion: a meibion y wraig a gynyddasant, ac a fwriasant ymaith Jefftha, ac a ddywedasant wrtho, Nid etifeddi di yn nhŷ ein tad ni; canys mab gwraig ddieithr ydwyt ti.

3. Yna Jefftha a ffodd rhag ei frodyr, ac a drigodd yng ngwlad Tob; a dynion ofer a ymgasglasant at Jefftha, ac a aethant allan gydag ef.

4. Ac wedi talm o ddyddiau, meibion Ammon a ryfelasant yn erbyn Israel.

5. A phan oedd meibion Ammon yn rhyfela yn erbyn Israel, yna henuriaid Gilead a aethant i gyrchu Jefftha o wlad Tob:

6. Ac a ddywedasant wrth Jefftha, Tyred a bydd yn dywysog i ni, fel yr ymladdom yn erbyn meibion Ammon.

7. A Jefftha a ddywedodd wrth henuriaid Gilead, Oni chasasoch chwi fi, ac a'm gyrasoch o dŷ fy nhad? a phaham y deuwch ataf fi yn awr, pan yw gyfyng arnoch?

8. A henuriaid Gilead a ddywedasant wrth Jefftha, Am hynny y dychwelasom yn awr atat ti, fel y delit gyda ni, ac yr ymladdit yn erbyn meibion Ammon, ac y byddit i ni yn ben ar holl drigolion Gilead.

9. A Jefftha a ddywedodd wrth henuriaid Gilead, O dygwch fi yn fy ôl i ymladd yn erbyn meibion Ammon, a rhoddi o'r Arglwydd hwynt o'm blaen i; a gaf fi fod yn ben arnoch chwi?

10. A henuriaid Gilead a ddywedasant wrth Jefftha, Yr Arglwydd a fyddo yn dyst rhyngom ni, oni wnawn ni felly yn ôl dy air di.

11. Yna Jefftha a aeth gyda henuriaid Gilead; a'r bobl a'i gosodasant ef yn ben ac yn dywysog arnynt: a Jefftha a adroddodd ei holl eiriau gerbron yr Arglwydd ym Mispa.

12. A Jefftha a anfonodd genhadau at frenin meibion Ammon, gan ddywedyd, Beth sydd i ti a wnelych â mi, fel y delit yn fy erbyn i ymladd yn fy ngwlad i?

13. A brenin meibion Ammon a ddywedodd wrth genhadau Jefftha, Oherwydd i Israel ddwyn fy ngwlad i pan ddaeth i fyny o'r Aifft, o Arnon hyd Jabboc, a hyd yr Iorddonen: yn awr gan hynny dod hwynt adref mewn heddwch.

14. A Jefftha a anfonodd drachefn genhadau at frenin meibion Ammon;

15. Ac a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywed Jefftha; Ni ddug Israel dir Moab, na thir meibion Ammon:

16. Ond pan ddaeth Israel i fyny o'r Aifft, a rhodio trwy'r anialwch, hyd y môr coch, a dyfod i Cades;

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 11