Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 1:20-34 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

20. Ac i Caleb y rhoesant Hebron; fel y llefarasai Moses: ac efe a yrrodd oddi yno dri mab Anac.

21. Ond meibion Benjamin ni yrasant allan y Jebusiaid y rhai oedd yn preswylio yn Jerwsalem: ond y mae y Jebusiaid yn trigo yn Jerwsalem gyda meibion Benjamin hyd y dydd hwn.

22. A thŷ Joseff, hwythau hefyd a aethant i fyny yn erbyn Bethel: a'r Arglwydd oedd gyda hwynt.

23. A thylwyth Joseff a barasant chwilio Bethel: (ac enw y ddinas o'r blaen oedd Lus.)

24. A'r ysbïwyr a welsant ŵr yn dyfod allan o'r ddinas; ac a ddywedasant wrtho, Dangos i ni, atolwg, y ffordd yr eir i'r ddinas, a ni a wnawn drugaredd â thi.

25. A phan ddangosodd efe iddynt hwy y ffordd i fyned i'r ddinas, hwy a drawsant y ddinas â min y cleddyf; ac a ollyngasant ymaith y gŵr a'i holl deulu.

26. A'r gŵr a aeth i wlad yr Hethiaid; ac a adeiladodd ddinas, ac a alwodd ei henw Lus: dyma ei henw hi hyd y dydd hwn.

27. Ond ni oresgynnodd Manasse Beth‐sean na'i threfydd, na Thaanach na'i threfydd, na thrigolion Dor na'i threfydd, na thrigolion Ibleam na'i threfydd, na thrigolion Megido na'i threfydd: eithr mynnodd y Canaaneaid breswylio yn y wlad honno.

28. Ond pan gryfhaodd Israel, yna efe a osododd y Canaaneaid dan dreth; ond nis gyrrodd hwynt ymaith yn llwyr.

29. Effraim hefyd ni yrrodd allan y Canaaneaid oedd yn gwladychu yn Geser; eithr y Canaaneaid a breswyliasant yn eu mysg hwynt yn Geser.

30. A Sabulon ni yrrodd ymaith drigolion Citron, na phreswylwyr Nahalol; eithr y Canaaneaid a wladychasant yn eu mysg hwynt, ac a aethant dan dreth.

31. Ac Aser ni yrrodd ymaith drigolion Acco, na thrigolion Sidon, nac Alab, nac Achsib, na Helba, nac Affic, na Rehob:

32. Ond Aser a drigodd ymysg y Canaaneaid, trigolion y wlad; canys ni yrasant hwynt allan.

33. A Nafftali ni yrrodd allan breswylwyr Beth‐semes, na thrigolion Beth‐anath; eithr efe a wladychodd ymysg y Canaaneaid, trigolion y wlad: er hynny preswylwyr Beth‐semes a Beth‐anath oedd dan dreth iddynt.

34. A'r Amoriaid a yrasant feibion Dan i'r mynydd: canys ni adawsant iddynt ddyfod i waered i'r dyffryn.

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 1