Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 1:11-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. Ac efe a aeth oddi yno at drigolion Debir: (ac enw Debir o'r blaen oedd Ciriath‐seffer:)

12. A dywedodd Caleb, Yr hwn a drawo Ciriath‐seffer, ac a'i henillo hi, mi a roddaf Achsa fy merch yn wraig iddo.

13. Ac Othniel mab Cenas, brawd Caleb, ieuangach nag ef, a'i henillodd hi. Yntau a roddes Achsa ei ferch yn wraig iddo.

14. A phan ddaeth hi i mewn ato ef, hi a'i hanogodd ef i geisio gan ei thad ryw faes: a hi a ddisgynnodd oddi ar yr asyn. A dywedodd Caleb wrthi, Beth a fynni di?

15. A hi a ddywedodd wrtho, Dyro i mi fendith: canys gwlad y deau a roddaist i mi; dyro i mi hefyd ffynhonnau dyfroedd. A Caleb a roddodd iddi y ffynhonnau uchaf, a'r ffynhonnau isaf.

16. A meibion Ceni, chwegrwn Moses, a aethant i fyny o ddinas y palmwydd gyda meibion Jwda, i anialwch Jwda, yr hwn sydd yn neau Arad: a hwy a aethant ac a drigasant gyda'r bobl.

17. A Jwda a aeth gyda Simeon ei frawd: a hwy a drawsant y Canaaneaid oedd yn preswylio yn Seffath, ac a'i difrodasant hi. Ac efe a alwodd enw y ddinas Horma.

18. Jwda hefyd a enillodd Gasa a'i therfynau, ac Ascalon a'i therfynau, ac Ecron a'i therfynau.

19. A'r Arglwydd oedd gyda Jwda; ac efe a oresgynnodd y mynydd: ond ni allai efe yrru allan drigolion y dyffryn; canys cerbydau heyrn oedd ganddynt.

20. Ac i Caleb y rhoesant Hebron; fel y llefarasai Moses: ac efe a yrrodd oddi yno dri mab Anac.

21. Ond meibion Benjamin ni yrasant allan y Jebusiaid y rhai oedd yn preswylio yn Jerwsalem: ond y mae y Jebusiaid yn trigo yn Jerwsalem gyda meibion Benjamin hyd y dydd hwn.

22. A thŷ Joseff, hwythau hefyd a aethant i fyny yn erbyn Bethel: a'r Arglwydd oedd gyda hwynt.

23. A thylwyth Joseff a barasant chwilio Bethel: (ac enw y ddinas o'r blaen oedd Lus.)

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 1