1. Ac wedi marw Josua, meibion Israel a ymofynasant â'r Arglwydd, gan ddywedyd, Pwy a â i fyny drosom ni yn erbyn y Canaaneaid yn flaenaf, i ymladd â hwynt?
2. A dywedodd yr Arglwydd, Jwda a â i fyny: wele, rhoddais y wlad yn ei law ef.
3. A Jwda a ddywedodd wrth Simeon ei frawd, Tyred i fyny gyda mi i'm rhandir, fel yr ymladdom yn erbyn y Canaaneaid; a minnau a af gyda thi i'th randir dithau. Felly Simeon a aeth gydag ef.
4. A Jwda a aeth i fyny; a'r Arglwydd a roddodd y Canaaneaid a'r Pheresiaid yn eu llaw hwynt: a lladdasant ohonynt, yn Besec, ddengmil o wŷr.
5. A hwy a gawsant Adoni‐besec yn Besec: ac a ymladdasant yn ei erbyn; ac a laddasant y Canaaneaid a'r Pheresiaid.
6. Ond Adoni‐besec a ffodd; a hwy a erlidiasant ar ei ôl ef, ac a'i daliasant ef, ac a dorasant fodiau ei ddwylo ef a'i draed.
7. Ac Adoni‐besec a ddywedodd, Deg a thrigain o frenhinoedd, wedi torri bodiau eu dwylo a'u traed, a fu yn casglu eu bwyd dan fy mwrdd i: fel y gwneuthum, felly y talodd Duw i mi. A hwy a'i dygasant ef i Jerwsalem; ac efe a fu farw yno.
8. A meibion Jwda a ymladdasant yn erbyn Jerwsalem; ac a'i henillasant hi, ac a'i trawsant â min y cleddyf; a llosgasant y ddinas â thân.
9. Wedi hynny meibion Jwda a aethant i waered i ymladd yn erbyn y Canaaneaid oedd yn trigo yn y mynydd, ac yn y deau, ac yn y gwastadedd.
10. A Jwda a aeth yn erbyn y Canaaneaid oedd yn trigo yn Hebron: (ac enw Hebron o'r blaen oedd Caer‐Arba:) a hwy a laddasant Sesai, ac Ahiman, a Thalmai.
11. Ac efe a aeth oddi yno at drigolion Debir: (ac enw Debir o'r blaen oedd Ciriath‐seffer:)