Hen Destament

Testament Newydd

Amos 9:7-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Onid ydych chwi, meibion Israel, i mi fel meibion yr Ethiopiaid? medd yr Arglwydd: oni ddygais i fyny feibion Israel allan o dir yr Aifft, a'r Philistiaid o Cafftor, a'r Syriaid o Cir?

8. Wele lygaid yr Arglwydd ar y deyrnas bechadurus, a mi a'i difethaf oddi ar wyneb y ddaear: ond ni lwyr ddifethaf dŷ Jacob, medd yr Arglwydd.

9. Canys wele, myfi a orchmynnaf, ac a ogrynaf dŷ Israel ymysg yr holl genhedloedd, fel y gogrynir ŷd mewn gogr; ac ni syrth y gronyn lleiaf i'r llawr.

10. Holl bechaduriaid fy mhobl a fyddant feirw gan y cleddyf, y rhai a ddywedant, Ni oddiwedd drwg ni, ac ni achub ein blaen.

11. Y dydd hwnnw y codaf babell Dafydd, yr hon a syrthiodd, ac a gaeaf ei bylchau, ac a godaf ei hadwyau, ac a'i hadeiladaf fel yn y dyddiau gynt:

Darllenwch bennod gyflawn Amos 9