Hen Destament

Testament Newydd

Amos 9:1-7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Gwelais yr Arglwydd yn sefyll ar yr allor: ac efe a ddywedodd, Taro gapan y drws, fel y siglo y gorsingau; a thor hwynt oll yn y pen; minnau a laddaf y rhai olaf ohonynt â'r cleddyf: ni ffy ymaith ohonynt a ffo, ac ni ddianc ohonynt a ddihango.

2. Pe cloddient hyd uffern, fy llaw a'u tynnai hwynt oddi yno; a phe dringent i'r nefoedd, mi a'u disgynnwn hwynt oddi yno:

3. A phe llechent ar ben Carmel, chwiliwn, a chymerwn hwynt oddi yno; a phe ymguddient o'm golwg yng ngwaelod y môr, oddi yno y gorchmynnaf i'r sarff eu brathu hwynt:

4. Ac os ânt i gaethiwed o flaen eu gelynion, oddi yno y gorchmynnaf i'r cleddyf, ac efe a'u lladd hwynt: a gosodaf fy ngolwg yn eu herbyn er drwg, ac nid er da iddynt.

5. Ac Arglwydd Dduw y lluoedd a gyffwrdd â'r ddaear, a hi a dawdd; a galara pawb a'r a drig ynddi, a hi a gyfyd oll fel llifeiriant, ac a foddir megis gan afon yr Aifft.

6. Yr hwn a adeilada ei esgynfeydd yn y nefoedd, ac a sylfaenodd ei fintai ar y ddaear, yr hwn a eilw ddyfroedd y môr, ac a'u tywallt ar wyneb y ddaear: Yr Arglwydd yw ei enw.

7. Onid ydych chwi, meibion Israel, i mi fel meibion yr Ethiopiaid? medd yr Arglwydd: oni ddygais i fyny feibion Israel allan o dir yr Aifft, a'r Philistiaid o Cafftor, a'r Syriaid o Cir?

Darllenwch bennod gyflawn Amos 9