Hen Destament

Testament Newydd

Amos 8:1-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Fel hyn y dangosodd yr Arglwydd i mi; ac wele gawellaid o ffrwythydd haf.

2. Ac efe a ddywedodd, Beth a weli di, Amos? A mi a ddywedais, Cawellaid o ffrwythydd haf. Yna y dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Daeth y diwedd ar fy mhobl Israel; nid af heibio iddynt mwyach.

3. Caniadau y deml hefyd a droir yn udo ar y dydd hwnnw, medd yr Arglwydd Dduw: llawer o gelaneddau a fydd ym mhob lle; bwrir hwynt allan yn ddistaw.

4. Gwrandewch hyn, y sawl ydych yn llyncu yr anghenog, i ddifa tlodion y tir,

5. Gan ddywedyd, Pa bryd yr â y mis heibio, fel y gwerthom ŷd? a'r Saboth, fel y dygom allan y gwenith, gan brinhau yr effa, a helaethu y sicl, ac anghyfiawnu y cloriannau trwy dwyll?

6. I brynu y tlawd er arian, a'r anghenus er pâr o esgidiau, ac i werthu gwehilion y gwenith?

7. Tyngodd yr Arglwydd i ragorfraint Jacob, Diau nid anghofiaf byth yr un o'u gweithredoedd hwynt.

8. Oni chrŷn y ddaear am hyn? ac oni alara ei holl breswylwyr? cyfyd hefyd i gyd fel llif; a bwrir hi ymaith, a hi a foddir, megis gan afon yr Aifft.

9. A'r dydd hwnnw, medd yr Arglwydd Dduw, y gwnaf i'r haul fachludo hanner dydd, a thywyllaf y ddaear liw dydd golau.

Darllenwch bennod gyflawn Amos 8