Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9

Hen Destament

Testament Newydd

Amos 7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Fel hyn y dangosodd yr Arglwydd i mi; ac wele ef yn ffurfio ceiliogod rhedyn pan ddechreuodd yr adladd godi; ac wele, adladd wedi lladd gwair y brenin oedd.

2. A phan ddarfu iddynt fwyta glaswellt y tir, yna y dywedais, Arbed, Arglwydd, atolwg: pwy a gyfyd Jacob? canys bychan yw.

3. Edifarhaodd yr Arglwydd am hyn: Ni bydd hyn, eb yr Arglwydd.

4. Fel hyn y dangosodd yr Arglwydd Dduw i mi: ac wele yr Arglwydd Dduw yn galw i farn trwy dân; a difaodd y tân y dyfnder mawr, ac a ysodd beth.

5. Yna y dywedais, Arglwydd Dduw, paid, atolwg: pwy a gyfyd Jacob? canys bychan yw.

6. Edifarhaodd yr Arglwydd am hyn: Ni bydd hyn chwaith, eb yr Arglwydd Dduw.

7. Fel hyn y dangosodd efe i mi: ac wele yr Arglwydd yn sefyll ar gaer a wnaethpwyd wrth linyn, ac yn ei law linyn.

8. A'r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Beth a weli di, Amos? a mi a ddywedais, Llinyn. A'r Arglwydd a ddywedodd, Wele, gosodaf linyn yng nghanol fy mhobl Israel, ac ni chwanegaf fyned heibio iddynt mwyach.

9. Uchelfeydd Isaac hefyd a wneir yn anghyfannedd, a chysegrau Israel a ddifethir; a mi a gyfodaf yn erbyn tŷ Jeroboam â'r cleddyf.

10. Yna Amaseia offeiriad Bethel a anfonodd at Jeroboam brenin Israel, gan ddywedyd, Cydfwriadodd Amos i'th erbyn yng nghanol tŷ Israel: ni ddichon y tir ddwyn ei holl eiriau ef.

11. Canys fel hyn y dywed Amos, Jeroboam a fydd farw trwy y cleddyf, ac Israel a gaethgludir yn llwyr allan o'i wlad.

12. Dywedodd Amaseia hefyd wrth Amos, Ti weledydd, dos, ffo ymaith i wlad Jwda; a bwyta fara yno, a phroffwyda yno:

13. Na chwanega broffwydo yn Bethel mwy: canys capel y brenin a llys y brenin yw.

14. Yna Amos a atebodd ac a ddywedodd wrth Amaseia, Nid proffwyd oeddwn i, ac nid mab i broffwyd oeddwn i: namyn bugail oeddwn i, a chasglydd ffigys gwylltion:

15. A'r Arglwydd a'm cymerodd oddi ar ôl y praidd; a'r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Dos, a phroffwyda i'm pobl Israel.

16. Yr awr hon gan hynny gwrando air yr Arglwydd; Ti a ddywedi, Na phroffwyda yn erbyn Israel, ac nac yngan yn erbyn tŷ Isaac.

17. Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd; Dy wraig a buteinia yn y ddinas, dy feibion a'th ferched a syrthiant gan y cleddyf, a'th dir a rennir wrth linyn; a thithau a fyddi farw mewn tir halogedig, a chan gaethgludo y caethgludir Israel allan o'i wlad.