Hen Destament

Testament Newydd

Amos 6:2-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. Tramwywch i Calne, ac edrychwch, ac ewch oddi yno i Hamath fwyaf; yna disgynnwch i Gath y Philistiaid: ai gwell ydynt na'r teyrnasoedd hyn? ai helaethach eu terfyn hwy na'ch terfyn chwi?

3. Y rhai ydych yn pellhau y dydd drwg, ac yn nesáu eisteddle trais;

4. Gorwedd y maent ar welyau ifori, ac ymestyn ar eu glythau, a bwyta yr ŵyn o'r praidd, a'r lloi o ganol y cut;

5. Y rhai a ddatganant gyda llais y nabl; dychmygasant iddynt eu hun offer cerdd, megis Dafydd;

6. Y rhai a yfant win mewn ffiolau, ac a ymirant â'r ennaint pennaf; ond nid ymofidiant am ddryllio Joseff.

7. Am hynny yr awr hon hwy a ddygir yn gaeth gyda'r cyntaf a ddygir yn gaeth; a gwledd y rhai a ymestynnant, a symudir.

8. Tyngodd yr Arglwydd Dduw iddo ei hun, Ffiaidd gennyf odidowgrwydd Jacob, a chaseais ei balasau: am hynny y rhoddaf i fyny y ddinas ac sydd ynddi, medd Arglwydd Dduw y lluoedd.

9. A bydd, os gweddillir mewn un tŷ ddeg o ddynion, y byddant feirw.

10. Ei ewythr a'i cyfyd i fyny, a'r hwn a'i llysg, i ddwyn yr esgyrn allan o'r tŷ, ac a ddywed wrth yr hwn a fyddo wrth ystlysau y tŷ, A oes eto neb gyda thi? ac efe a ddywed, Nac oes: yna y dywed yntau, Taw; am na wasanaetha cofio enw yr Arglwydd.

Darllenwch bennod gyflawn Amos 6