1. Gwrandewch y gair a lefarodd yr Arglwydd i'ch erbyn chwi, plant Israel, yn erbyn yr holl deulu a ddygais i fyny o wlad yr Aifft, gan ddywedyd,
2. Chwi yn unig a adnabûm o holl deuluoedd y ddaear: am hynny ymwelaf â chwi am eich holl anwireddau.
3. A rodia dau ynghyd, heb fod yn gytûn?
4. A rua y llew yn y goedwig, heb ganddo ysglyfaeth? a leisia cenau llew o'i ffau, heb ddal dim?
5. A syrth yr aderyn yn y fagl ar y ddaear, heb fod croglath iddo? a gyfyd un y fagl oddi ar y ddaear, heb ddal dim?
6. A genir utgorn yn y ddinas, heb ddychrynu o'r bobl? a fydd niwed yn y ddinas, heb i'r Arglwydd ei wneuthur?
7. Canys ni wna yr Arglwydd ddim, a'r nas dangoso ei gyfrinach i'w weision y proffwydi.
8. Rhuodd y llew, pwy nid ofna? yr Arglwydd Iôr a lefarodd, pwy ni phroffwyda?
9. Cyhoeddwch o fewn y palasau yn Asdod, ac yn y palasau yng ngwlad yr Aifft, a dywedwch, Deuwch ynghyd ar fynyddoedd Samaria, a gwelwch derfysgoedd lawer o'i mewn, a'r gorthrymedigion yn ei chanol hi.
10. Canys ni fedrant wneuthur uniondeb, medd yr Arglwydd: pentyrru y maent drais ac ysbail yn eu palasau.