Hen Destament

Testament Newydd

Amos 2:1-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Am dair o anwireddau Moab, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddo losgi esgyrn brenin Edom yn galch.

2. Eithr anfonaf dân i Moab, yr hwn a ddifa balasau Cerioth: a Moab fydd marw mewn terfysg, gweiddi, a llais utgorn.

3. A mi a dorraf ymaith y barnwr o'i chanol hi, a'i holl bendefigion a laddaf gydag ef, medd yr Arglwydd.

4. Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Am dair o anwireddau Jwda, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddynt ddirmygu cyfraith yr Arglwydd, ac na chadwasant ei ddeddfau ef; a'u celwyddau a'u cyfeiliornodd hwynt, y rhai yr aeth eu tadau ar eu hôl.

5. Eithr anfonaf dân i Jwda, ac efe a ddifa balasoedd Jerwsalem.

6. Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Am dair o anwireddau Israel, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddynt werthu y cyfiawn am arian, a'r tlawd er pâr o esgidiau:

7. Y rhai a ddyheant ar ôl llwch y ddaear ar ben y tlodion, ac a wyrant ffordd y gostyngedig: a gŵr a'i dad a â at yr un llances, i halogi fy enw sanctaidd.

8. Ac ar ddillad wedi eu rhoi yng ngwystl y gorweddant wrth bob allor; a gwin y dirwyol a yfant yn nhŷ eu duw.

9. Eto myfi a ddinistriais yr Amoriad o'u blaen hwynt, yr hwn yr oedd ei uchder fel uchder y cedrwydd, ac efe oedd gryf fel derw; eto mi a ddinistriais ei ffrwythau oddi arnodd, a'i wraidd oddi tanodd.

10. Myfi hefyd a'ch dygais chwi i fyny o wlad yr Aifft, ac a'ch arweiniais chwi ddeugain mlynedd trwy yr anialwch, i feddiannu gwlad yr Amoriad.

Darllenwch bennod gyflawn Amos 2