9. Pan glybu Toi brenin Hamath, daro o Dafydd holl lu Hadadeser;
10. Yna Toi a anfonodd Joram ei fab at y brenin Dafydd, i gyfarch gwell iddo ac i'w fendithio, am iddo ymladd yn erbyn Hadadeser, a'i faeddu ef; (canys gŵr rhyfelgar oedd Hadadeser yn erbyn Toi:) a llestri arian, a llestri aur, a llestri pres ganddo:
11. Y rhai hefyd a gysegrodd y brenin Dafydd i'r Arglwydd, gyda'r arian a'r aur a gysegrasai efe o'r holl genhedloedd a oresgynasai efe;
12. Oddi ar Syria, ac oddi ar Moab, ac oddi ar feibion Ammon, ac oddi ar y Philistiaid, ac oddi ar Amalec, ac o anrhaith Hadadeser mab Rehob, brenin Soba.
13. A Dafydd a enillodd iddo enw, pan ddychwelodd efe o ladd y Syriaid, yn nyffryn yr halen, sef tair mil ar bymtheg.
14. Ac efe a osododd benaethiaid ar Edom; ar holl Edom y gosododd efe benaethiaid, a bu holl Edom yn weision i Dafydd. A'r Arglwydd a gadwodd Dafydd, i ba le bynnag yr aeth efe.
15. A theyrnasodd Dafydd ar holl Israel; ac yr oedd Dafydd yn gwneuthur barn a chyfiawnder i'w holl bobl.
16. A Joab mab Serfia oedd ben ar y llu; a Jehosaffat mab Ahilud yn gofiadur;