2. Ac efe a drawodd Moab, ac a'u mesurodd hwynt â llinyn, gan eu cwympo hwynt i lawr: ac efe a fesurodd â dau linyn, i ladd; ac â llinyn llawn, i gadw yn fyw. Ac felly y Moabiaid fuant i Dafydd yn weision, yn dwyn treth.
3. Trawodd Dafydd hefyd Hadadeser mab Rehob, brenin Soba, pan oedd efe yn myned i ennill ei derfynau wrth afon Ewffrates.
4. A Dafydd a enillodd oddi arno ef fil o gerbydau, a saith gant o farchogion, ac ugain mil o wŷr traed: a thorrodd Dafydd linynnau gar meirch pob cerbyd, ac efe a adawodd ohonynt gan cerbyd.
5. A phan ddaeth y Syriad o Damascus, i gynorthwyo Hadadeser brenin Soba, Dafydd a laddodd o'r Syriaid ddwy fil ar hugain o wŷr.
6. A Dafydd a osododd swyddogion yn Syria Damascus; a'r Syriaid a fuant weision i Dafydd, yn dwyn treth. A'r Arglwydd a gadwodd Dafydd ym mha le bynnag yr aeth efe.
7. Dafydd hefyd a gymerth y tarianau aur oedd gan weision Hadadeser, ac a'u dug hwynt i Jerwsalem.
8. O Beta hefyd, ac o Berothai, dinasoedd Hadadeser, y dug y brenin Dafydd lawer iawn o bres.
9. Pan glybu Toi brenin Hamath, daro o Dafydd holl lu Hadadeser;