12. Oddi ar Syria, ac oddi ar Moab, ac oddi ar feibion Ammon, ac oddi ar y Philistiaid, ac oddi ar Amalec, ac o anrhaith Hadadeser mab Rehob, brenin Soba.
13. A Dafydd a enillodd iddo enw, pan ddychwelodd efe o ladd y Syriaid, yn nyffryn yr halen, sef tair mil ar bymtheg.
14. Ac efe a osododd benaethiaid ar Edom; ar holl Edom y gosododd efe benaethiaid, a bu holl Edom yn weision i Dafydd. A'r Arglwydd a gadwodd Dafydd, i ba le bynnag yr aeth efe.
15. A theyrnasodd Dafydd ar holl Israel; ac yr oedd Dafydd yn gwneuthur barn a chyfiawnder i'w holl bobl.
16. A Joab mab Serfia oedd ben ar y llu; a Jehosaffat mab Ahilud yn gofiadur;
17. A Sadoc mab Ahitub, ac Ahimelech mab Abiathar, oedd offeiriaid; a Seraia yn ysgrifennydd:
18. Benaia hefyd mab Jehoiada oedd ar y Cerethiaid a'r Pelethiaid; a meibion Dafydd oedd dywysogion.