Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 7:12-29 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. A phan gyflawner dy ddyddiau di, a huno ohonot gyda'th dadau, mi a gyfodaf dy had di ar dy ôl, yr hwn a ddaw allan o'th ymysgaroedd di, a mi a gadarnhaf ei frenhiniaeth ef.

13. Efe a adeilada dŷ i'm henw i; minnau a gadarnhaf orseddfainc ei frenhiniaeth ef byth.

14. Myfi a fyddaf iddo ef yn dad, ac yntau fydd i mi yn fab. Os trosedda efe, mi a'i ceryddaf â gwialen ddynol, ac â dyrnodiau meibion dynion:

15. Ond fy nhrugaredd nid ymedy ag ef, megis ag y tynnais hi oddi wrth Saul, yr hwn a fwriais ymaith o'th flaen di.

16. A'th dŷ di a sicrheir, a'th frenhiniaeth, yn dragywydd o'th flaen di: dy orseddfainc a sicrheir byth.

17. Yn ôl yr holl eiriau hyn, ac yn ôl yr holl weledigaeth hon, felly y llefarodd Nathan wrth Dafydd.

18. Yna yr aeth y brenin Dafydd i mewn, ac a eisteddodd gerbron yr Arglwydd: ac a ddywedodd, Pwy ydwyf fi, O Arglwydd Dduw? a pheth yw fy nhŷ, pan ddygit fi hyd yma?

19. Ac eto bychan oedd hyn yn dy olwg di, O Arglwydd Dduw; ond ti a leferaist hefyd am dŷ dy was dros hir amser: ai dyma arfer dyn, O Arglwydd Dduw?

20. A pha beth mwyach a ddywed Dafydd ychwaneg wrthyt? canys ti a adwaenost dy was, O Arglwydd Dduw.

21. Er mwyn dy air di, ac yn ôl dy feddwl dy hun, y gwnaethost yr holl fawredd hyn, i beri i'th was eu gwybod.

22. Am hynny y'th fawrhawyd, O Arglwydd Dduw; canys nid oes neb fel tydi, ac nid oes Duw onid ti, yn ôl yr hyn oll a glywsom ni â'n clustiau.

23. A pha un genedl ar y ddaear sydd megis dy bobl, megis Israel, yr hon yr aeth Duw i'w gwaredu yn bobl iddo ei hun, ac i osod iddo enw, ac i wneuthur eroch chwi bethau mawr ac ofnadwy dros dy dir, gerbron dy bobl y rhai a waredaist i ti o'r Aifft, oddi wrth y cenhedloedd a'u duwiau?

24. Canys ti a sicrheaist i ti dy bobl Israel yn bobl i ti byth: a thi, Arglwydd, ydwyt iddynt hwy yn Dduw.

25. Ac yn awr, O Arglwydd Dduw, cwblha byth y gair a leferaist am dy was, ac am ei dŷ ef, a gwna megis y dywedaist.

26. A mawrhaer dy enw yn dragywydd; gan ddywedyd, Arglwydd y lluoedd sydd Dduw ar Israel: a bydded tŷ dy was Dafydd wedi ei sicrhau ger dy fron di.

27. Canys ti, O Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, a fynegaist i'th was, gan ddywedyd, Adeiladaf dŷ i ti: am hynny dy was a gafodd yn ei galon weddïo atat ti y weddi hon.

28. Ac yn awr, O Arglwydd Dduw, tydi sydd Dduw, a'th eiriau di sydd wirionedd, a thi a leferaist am dy was y daioni hwn.

29. Yn awr gan hynny rhynged bodd i ti fendigo tŷ dy was, i fod ger dy fron di yn dragywydd: canys ti, O Arglwydd Dduw, a leferaist, ac â'th fendith di y bendithier tŷ dy was yn dragywydd.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 7