Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 7:12-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. A phan gyflawner dy ddyddiau di, a huno ohonot gyda'th dadau, mi a gyfodaf dy had di ar dy ôl, yr hwn a ddaw allan o'th ymysgaroedd di, a mi a gadarnhaf ei frenhiniaeth ef.

13. Efe a adeilada dŷ i'm henw i; minnau a gadarnhaf orseddfainc ei frenhiniaeth ef byth.

14. Myfi a fyddaf iddo ef yn dad, ac yntau fydd i mi yn fab. Os trosedda efe, mi a'i ceryddaf â gwialen ddynol, ac â dyrnodiau meibion dynion:

15. Ond fy nhrugaredd nid ymedy ag ef, megis ag y tynnais hi oddi wrth Saul, yr hwn a fwriais ymaith o'th flaen di.

16. A'th dŷ di a sicrheir, a'th frenhiniaeth, yn dragywydd o'th flaen di: dy orseddfainc a sicrheir byth.

17. Yn ôl yr holl eiriau hyn, ac yn ôl yr holl weledigaeth hon, felly y llefarodd Nathan wrth Dafydd.

18. Yna yr aeth y brenin Dafydd i mewn, ac a eisteddodd gerbron yr Arglwydd: ac a ddywedodd, Pwy ydwyf fi, O Arglwydd Dduw? a pheth yw fy nhŷ, pan ddygit fi hyd yma?

19. Ac eto bychan oedd hyn yn dy olwg di, O Arglwydd Dduw; ond ti a leferaist hefyd am dŷ dy was dros hir amser: ai dyma arfer dyn, O Arglwydd Dduw?

20. A pha beth mwyach a ddywed Dafydd ychwaneg wrthyt? canys ti a adwaenost dy was, O Arglwydd Dduw.

21. Er mwyn dy air di, ac yn ôl dy feddwl dy hun, y gwnaethost yr holl fawredd hyn, i beri i'th was eu gwybod.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 7