2 Samuel 6:2 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)
A Dafydd a gyfododd, ac a aeth, a'r holl bobl oedd gydag ef, o Baale Jwda, i ddwyn i fyny oddi yno arch Duw; enw yr hon a elwir ar enw Arglwydd y lluoedd, yr hwn sydd yn aros arni rhwng y ceriwbiaid.