Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 5:2-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. Cyn hyn hefyd, pan oedd Saul yn frenin arnom ni, ti oeddit yn arwain Israel allan, ac yn eu dwyn i mewn: a dywedodd yr Arglwydd wrthyt ti, Ti a borthi fy mhobl Israel, a thi a fyddi yn flaenor ar Israel.

3. Felly holl henuriaid Israel a ddaethant at y brenin i Hebron: a'r brenin Dafydd a wnaeth gyfamod â hwynt yn Hebron, gerbron yr Arglwydd: a hwy a eneiniasant Dafydd yn frenin ar Israel.

4. Mab deng mlwydd ar hugain oedd Dafydd pan ddechreuodd deyrnasu; a deugain mlynedd y teyrnasodd efe.

5. Yn Hebron y teyrnasodd efe ar Jwda saith mlynedd a chwe mis: ac yn Jerwsalem y teyrnasodd efe dair blynedd ar ddeg ar hugain ar holl Israel a Jwda.

6. A'r brenin a'i wŷr a aethant i Jerwsalem, at y Jebusiaid, preswylwyr y wlad: y rhai a lefarasant wrth Dafydd, gan ddywedyd, Ni ddeui di yma, oni thynni ymaith y deillion a'r cloffion: gan dybied, Ni ddaw Dafydd yma.

7. Ond Dafydd a enillodd amddiffynfa Seion: honno yw dinas Dafydd.

8. A dywedodd Dafydd y dwthwn hwnnw, Pwy bynnag a elo i fyny i'r gwter, ac a drawo'r Jebusiaid, a'r cloffion, a'r deillion, y rhai sydd gas gan enaid Dafydd, hwnnw fydd blaenor. Am hynny y dywedasant, Y dall a'r cloff ni ddaw i mewn i'r tŷ.

9. A Dafydd a drigodd yn yr amddiffynfa, ac a'i galwodd hi, Dinas Dafydd. A Dafydd a adeiladodd oddi amgylch, o Milo ac oddi mewn.

10. A Dafydd a aeth rhagddo, ac a gynyddodd yn fawr; ac Arglwydd Dduw y lluoedd oedd gydag ef.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 5