Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 5:13-25 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. A Dafydd a gymerodd eto ordderchwragedd a gwragedd o Jerwsalem, wedi iddo ddyfod o Hebron: a ganwyd eto i Dafydd feibion a merched.

14. A dyma enwau y rhai a anwyd iddo ef yn Jerwsalem; Sammua, a Sobab, a Nathan, a Solomon,

15. Ibhar hefyd, ac Elisua, a Neffeg, a Jaffia,

16. Elisama hefyd, ac Eliada, ac Eliffalet.

17. Ond pan glybu y Philistiaid iddynt eneinio Dafydd yn frenin ar Israel, yr holl Philistiaid a ddaethant i fyny i geisio Dafydd. A Dafydd a glybu, ac a aeth i waered i'r amddiffynfa.

18. A'r Philistiaid a ddaethant, ac a ymdaenasant yn nyffryn Reffaim.

19. A Dafydd a ymofynnodd â'r Arglwydd, gan ddywedyd, A af fi i fyny at y Philistiaid? a roddi di hwynt yn fy llaw i? A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Dafydd, Dos i fyny: canys gan roddi y rhoddaf y Philistiaid yn dy law di.

20. A Dafydd a ddaeth i Baal‐perasim; a Dafydd a'u trawodd hwynt yno; ac a ddywedodd, Yr Arglwydd a wahanodd fy ngelynion o'm blaen i, megis gwahanu dyfroedd. Am hynny y galwodd efe enw y lle hwnnw, Baal‐perasim.

21. Ac yno y gadawsant hwy eu delwau; a Dafydd a'i wŷr a'u llosgodd hwynt.

22. A'r Philistiaid eto a chwanegasant ddyfod i fyny, ac a ymdaenasant yn nyffryn Reffaim.

23. A Dafydd a ymofynnodd â'r Arglwydd; ac efe a ddywedodd, Na ddos i fyny: amgylchyna o'r tu ôl iddynt, a thyred arnynt hwy gyferbyn â'r morwydd.

24. A phan glywech drwst cerddediad ym mrig y morwydd, yna ymegnïa: canys yna yr Arglwydd a â allan o'th flaen di, i daro gwersyll y Philistiaid.

25. A Dafydd a wnaeth megis y gorchmynasai yr Arglwydd iddo ef; ac a drawodd y Philistiaid o Geba, hyd oni ddelech i Gaser.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 5