10. A Dafydd a aeth rhagddo, ac a gynyddodd yn fawr; ac Arglwydd Dduw y lluoedd oedd gydag ef.
11. A Hiram brenin Tyrus a anfonodd genhadau at Dafydd, a choed cedr, a seiri prennau, a seiri meini: a hwy a adeiladasant dŷ i Dafydd.
12. A gwybu Dafydd i'r Arglwydd ei sicrhau ef yn frenin ar Israel, a dyrchafu ohono ei frenhiniaeth ef er mwyn ei bobl Israel.
13. A Dafydd a gymerodd eto ordderchwragedd a gwragedd o Jerwsalem, wedi iddo ddyfod o Hebron: a ganwyd eto i Dafydd feibion a merched.
14. A dyma enwau y rhai a anwyd iddo ef yn Jerwsalem; Sammua, a Sobab, a Nathan, a Solomon,
15. Ibhar hefyd, ac Elisua, a Neffeg, a Jaffia,
16. Elisama hefyd, ac Eliada, ac Eliffalet.
17. Ond pan glybu y Philistiaid iddynt eneinio Dafydd yn frenin ar Israel, yr holl Philistiaid a ddaethant i fyny i geisio Dafydd. A Dafydd a glybu, ac a aeth i waered i'r amddiffynfa.
18. A'r Philistiaid a ddaethant, ac a ymdaenasant yn nyffryn Reffaim.
19. A Dafydd a ymofynnodd â'r Arglwydd, gan ddywedyd, A af fi i fyny at y Philistiaid? a roddi di hwynt yn fy llaw i? A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Dafydd, Dos i fyny: canys gan roddi y rhoddaf y Philistiaid yn dy law di.
20. A Dafydd a ddaeth i Baal‐perasim; a Dafydd a'u trawodd hwynt yno; ac a ddywedodd, Yr Arglwydd a wahanodd fy ngelynion o'm blaen i, megis gwahanu dyfroedd. Am hynny y galwodd efe enw y lle hwnnw, Baal‐perasim.
21. Ac yno y gadawsant hwy eu delwau; a Dafydd a'i wŷr a'u llosgodd hwynt.