8. Felly y cylchynasant yr holl wlad, ac a ddaethant ymhen naw mis ac ugain niwrnod i Jerwsalem.
9. A rhoddes Joab nifer cyfrif y bobl at y brenin: ac Israel ydoedd wyth gan mil o wŷr grymus yn tynnu cleddyf; a gwŷr Jwda oedd bum can mil o wŷr.
10. A chalon Dafydd a'i trawodd ef, ar ôl iddo gyfrif y bobl. A dywedodd Dafydd wrth yr Arglwydd, Pechais yn ddirfawr yn yr hyn a wneuthum: ac yn awr dilea, atolwg, O Arglwydd, anwiredd dy was; canys ynfyd iawn y gwneuthum.
11. A phan gyfododd Dafydd y bore, daeth gair yr Arglwydd at Gad y proffwyd, gweledydd Dafydd, gan ddywedyd,
12. Dos a dywed wrth Dafydd, Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd; Yr ydwyf fi yn gosod tri pheth o'th flaen di; dewis i ti un ohonynt, a gwnaf hynny i ti.
13. Felly Gad a ddaeth at Dafydd, ac a fynegodd iddo, ac a ddywedodd wrtho, A fynni ddyfod i ti saith mlynedd o newyn yn dy wlad? neu ffoi dri mis o flaen dy elynion, a hwy yn dy erlid? ai ynteu bod haint yn y wlad dri diwrnod? Yn awr ymgynghora, ac edrych pa beth a atebaf i'r hwn a'm hanfonodd i.
14. A dywedodd Dafydd wrth Gad, Y mae yn gyfyng iawn arnaf fi: bid i mi syrthio yn awr yn llaw yr Arglwydd, canys aml yw ei drugareddau ef, ac na chwympwyf yn llaw dyn.
15. Yna y rhoddes yr Arglwydd haint yn Israel, o'r bore hyd yr amser nodedig: a bu farw o'r bobl, o Dan hyd Beer‐seba, ddeng mil a thrigain o wŷr.
16. A phan estynasai yr angel ei law at Jerwsalem i'w dinistrio hi, edifarhaodd ar yr Arglwydd y drwg hwn, ac a ddywedodd wrth yr angel oedd yn dinistrio y bobl, Digon bellach: atal dy law. Ac angel yr Arglwydd oedd wrth lawr dyrnu Arafna y Jebusiad.
17. A llefarodd Dafydd wrth yr Arglwydd, pan ganfu efe yr angel a drawsai y bobl, a dywedodd, Wele, myfi a bechais, ac a wneuthum yn ddrygionus: ond y defaid hyn, beth a wnaethant hwy? bydded, atolwg, dy law arnaf fi, ac ar dŷ fy nhad.
18. A Gad a ddaeth at Dafydd y dwthwn hwnnw, ac a ddywedodd wrtho, Dos i fyny, cyfod allor i'r Arglwydd yn llawr dyrnu Arafna y Jebusiad.
19. A Dafydd a aeth i fyny, yn ôl gair Gad, fel y gorchmynasai yr Arglwydd.