Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 24:14-25 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. A dywedodd Dafydd wrth Gad, Y mae yn gyfyng iawn arnaf fi: bid i mi syrthio yn awr yn llaw yr Arglwydd, canys aml yw ei drugareddau ef, ac na chwympwyf yn llaw dyn.

15. Yna y rhoddes yr Arglwydd haint yn Israel, o'r bore hyd yr amser nodedig: a bu farw o'r bobl, o Dan hyd Beer‐seba, ddeng mil a thrigain o wŷr.

16. A phan estynasai yr angel ei law at Jerwsalem i'w dinistrio hi, edifarhaodd ar yr Arglwydd y drwg hwn, ac a ddywedodd wrth yr angel oedd yn dinistrio y bobl, Digon bellach: atal dy law. Ac angel yr Arglwydd oedd wrth lawr dyrnu Arafna y Jebusiad.

17. A llefarodd Dafydd wrth yr Arglwydd, pan ganfu efe yr angel a drawsai y bobl, a dywedodd, Wele, myfi a bechais, ac a wneuthum yn ddrygionus: ond y defaid hyn, beth a wnaethant hwy? bydded, atolwg, dy law arnaf fi, ac ar dŷ fy nhad.

18. A Gad a ddaeth at Dafydd y dwthwn hwnnw, ac a ddywedodd wrtho, Dos i fyny, cyfod allor i'r Arglwydd yn llawr dyrnu Arafna y Jebusiad.

19. A Dafydd a aeth i fyny, yn ôl gair Gad, fel y gorchmynasai yr Arglwydd.

20. Ac Arafna a edrychodd, ac a ganfu y brenin a'i weision yn dyfod tuag ato. Ac Arafna a aeth allan, ac a ostyngodd ei wyneb i lawr gerbron y brenin.

21. Ac Arafna a ddywedodd, Paham y daeth fy arglwydd frenin at ei was? A dywedodd Dafydd, I brynu gennyt ti y llawr dyrnu, i adeiladu allor i'r Arglwydd, fel yr atalier y pla oddi wrth y bobl.

22. A dywedodd Arafna wrth Dafydd, Cymered, ac offrymed fy arglwydd frenin yr hyn fyddo da yn ei olwg: wele yr ychen yn boethoffrwm, a'r ffustiau ac offer yr ychen yn lle cynnud.

23. Hyn oll a roddodd Arafna, megis brenin, i'r brenin. A dywedodd Arafna wrth y brenin, Yr Arglwydd dy Dduw a fyddo bodlon i ti.

24. A dywedodd y brenin wrth Arafna, Nage; eithr gan brynu y prynaf ef mewn pris gennyt: ac nid offrymaf i'r Arglwydd fy Nuw boethoffrymau rhad. Felly Dafydd a brynodd y llawr dyrnu a'r ychen, er deg a deugain o siclau arian.

25. Ac yno yr adeiladodd Dafydd allor i'r Arglwydd, ac a offrymodd boethoffrymau ac offrymau hedd. A'r Arglwydd a gymododd â'r wlad, a'r pla a ataliwyd oddi wrth Israel.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 24