1. A thrachefn dicllonedd yr Arglwydd a enynnodd yn erbyn Israel; ac efe a anogodd Dafydd yn eu herbyn hwynt, i ddywedyd, Dos, cyfrif Israel a Jwda.
2. Canys y brenin a ddywedodd wrth Joab tywysog y llu oedd ganddo ef, Dos yn awr trwy holl lwythau Israel, o Dan hyd Beerāseba, a chyfrif y bobl, fel y gwypwyf rifedi y bobl.
3. A Joab a ddywedodd wrth y brenin, Yr Arglwydd dy Dduw a chwanego y bobl yn gan cymaint ag y maent, fel y gwelo llygaid fy arglwydd frenin: ond paham yr ewyllysia fy arglwydd frenin y peth hyn?