Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 24:1-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A thrachefn dicllonedd yr Arglwydd a enynnodd yn erbyn Israel; ac efe a anogodd Dafydd yn eu herbyn hwynt, i ddywedyd, Dos, cyfrif Israel a Jwda.

2. Canys y brenin a ddywedodd wrth Joab tywysog y llu oedd ganddo ef, Dos yn awr trwy holl lwythau Israel, o Dan hyd Beer‐seba, a chyfrif y bobl, fel y gwypwyf rifedi y bobl.

3. A Joab a ddywedodd wrth y brenin, Yr Arglwydd dy Dduw a chwanego y bobl yn gan cymaint ag y maent, fel y gwelo llygaid fy arglwydd frenin: ond paham yr ewyllysia fy arglwydd frenin y peth hyn?

4. A gair y brenin fu drech na Joab, ac na thywysogion y llu. Joab am hynny a aeth allan, a thywysogion y llu, o ŵydd y brenin, i gyfrif pobl Israel.

5. A hwy a aethant dros yr Iorddonen, ac a wersyllasant yn Aroer, o'r tu deau i'r ddinas sydd yng nghanol dyffryn Gad, a thua Jaser.

6. Yna y daethant i Gilead, ac i wlad Tahtim‐hodsi; daethant hefyd i Dan-jaan, ac o amgylch i Sidon;

7. Daethant hefyd i amddiffynfa Tyrus, ac i holl ddinasoedd yr Hefiaid, a'r Canaaneaid; a hwy a aethant i du deau Jwda, i Beer‐seba.

8. Felly y cylchynasant yr holl wlad, ac a ddaethant ymhen naw mis ac ugain niwrnod i Jerwsalem.

9. A rhoddes Joab nifer cyfrif y bobl at y brenin: ac Israel ydoedd wyth gan mil o wŷr grymus yn tynnu cleddyf; a gwŷr Jwda oedd bum can mil o wŷr.

10. A chalon Dafydd a'i trawodd ef, ar ôl iddo gyfrif y bobl. A dywedodd Dafydd wrth yr Arglwydd, Pechais yn ddirfawr yn yr hyn a wneuthum: ac yn awr dilea, atolwg, O Arglwydd, anwiredd dy was; canys ynfyd iawn y gwneuthum.

11. A phan gyfododd Dafydd y bore, daeth gair yr Arglwydd at Gad y proffwyd, gweledydd Dafydd, gan ddywedyd,

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 24