Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 20:12-26 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. Ac Amasa oedd yn ymdrybaeddu mewn gwaed yng nghanol y briffordd. A phan welodd y gŵr yr holl bobl yn sefyll, efe a symudodd Amasa oddi ar y briffordd i'r maes, ac a daflodd gadach arno, pan welodd efe bawb a'r oedd yn dyfod ato ef yn sefyll.

13. Pan symudwyd ef oddi ar y briffordd, yr holl wŷr a aethant ar ôl Joab, i erlid ar ôl Seba mab Bichri.

14. Ac efe a dramwyodd trwy holl lwythau Israel i Abel, ac i Beth‐maacha, ac i holl leoedd Berim: a hwy a ymgasglasant, ac a aethant ar ei ôl ef.

15. Felly y daethant hwy, ac a warchaeasant arno ef yn Abel Beth‐maacha, ac a fwriasant glawdd yn erbyn y ddinas, yr hon a safodd ar y rhagfur: a'r holl bobl y rhai oedd gyda Joab oedd yn curo'r mur, i'w fwrw i lawr.

16. Yna gwraig ddoeth o'r ddinas a lefodd, Clywch, clywch: dywedwch, atolwg, wrth Joab, Nesâ hyd yma, fel yr ymddiddanwyf â thi.

17. Pan nesaodd efe ati hi, y wraig a ddywedodd, Ai ti yw Joab? Dywedodd yntau, Ie, myfi. A hi a ddywedodd wrtho ef, Gwrando eiriau dy lawforwyn. Dywedodd yntau, Yr ydwyf yn gwrando.

18. Yna hi a ddywedodd, Hwy a lefarent gynt, gan ddywedyd, Diau yr ymofynnant ag Abel: ac felly y dibennent.

19. Myfi wyf un o heddychol ffyddloniaid Israel: yr wyt ti yn ceisio difetha dinas a mam yn Israel: paham y difethi di etifeddiaeth yr Arglwydd?

20. A Joab a atebodd ac a ddywedodd, Na ato Duw, na ato Duw, i mi na difetha na dinistrio!

21. Nid felly y mae y peth: eithr gŵr o fynydd Effraim, Seba mab Bichri dan ei enw, a ddyrchafodd ei law yn erbyn y brenin, yn erbyn Dafydd. Rhoddwch ef yn unig, a mi a af ymaith oddi wrth y ddinas. A dywedodd y wraig wrth Joab, Wele, ei ben ef a fwrir atat ti dros y mur.

22. Yna y wraig o'i doethineb a aeth at yr holl bobl. A hwy a dorasant ben Seba mab Bichri, ac a'i taflasant allan i Joab. Ac efe a utganodd mewn utgorn; a hwy a wasgarwyd oddi wrth y ddinas, bob un i'w pabellau. A Joab a ddychwelodd i Jerwsalem at y brenin.

23. Yna Joab oedd ar holl luoedd Israel; a Benaia mab Jehoiada ar y Cerethiaid, ac ar y Pelethiaid;

24. Ac Adoram oedd ar y dreth; a Jehosaffat mab Ahilud yn gofiadur;

25. Sefa hefyd yn ysgrifennydd; a Sadoc ac Abiathar yn offeiriaid;

26. Ira hefyd y Jairiad oedd ben‐llywydd ynghylch Dafydd.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 20