Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 20:1-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac yno y digwyddodd bod gŵr i'r fall, a'i enw Seba, mab Bichri, gŵr o Jemini; ac efe a utganodd mewn utgorn, ac a ddywedodd, Nid oes i ni ddim rhan yn Dafydd, nac etifeddiaeth i ni ym mab Jesse: pawb i'w babell, O Israel.

2. Felly holl wŷr Israel a aethant i fyny oddi ar ôl Dafydd, ar ôl Seba mab Bichri: ond gwŷr Jwda a lynasant wrth eu brenin, o'r Iorddonen hyd Jerwsalem.

3. A daeth Dafydd i'w dŷ ei hun i Jerwsalem; a'r brenin a gymerth y deg gordderchwraig a adawsai efe i gadw y tŷ, ac a'u rhoddes hwynt mewn cadwraeth, ac a'u porthodd hwynt; ond nid aeth efe i mewn atynt hwy: eithr buant yn rhwym hyd ddydd eu marwolaeth, yn byw mewn gweddwdod.

4. Yna y dywedodd y brenin wrth Amasa, Cynnull i mi wŷr Jwda erbyn y trydydd dydd; a bydd dithau yma.

5. Felly Amasa a aeth i gynnull Jwda: ond efe a drigodd yn hwy na'r amser terfynedig a osodasai efe iddo.

6. A dywedodd Dafydd wrth Abisai, Seba mab Bichri a'n dryga ni yn waeth nag Absalom: cymer di weision dy arglwydd, ac erlid ar ei ôl ef, rhag iddo gael y dinasoedd caerog, ac ymachub o'n golwg ni.

7. A gwŷr Joab, a'r Cerethiaid, y Pelethiaid hefyd, a'r holl gedyrn, a aethant ar ei ôl ef; ac a aethant allan o Jerwsalem, i erlid ar ôl Seba mab Bichri.

8. Pan oeddynt hwy wrth y maen mawr sydd yn Gibeon, Amasa a aeth o'u blaen hwynt. A Joab oedd wedi gwregysu ei gochl oedd amdano, ac arni yr oedd gwregys â chleddyf wedi ei rwymo ar ei lwynau ef yn ei wain; a phan gerddai efe, y cleddyf a syrthiai.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 20