1. Ac ar ôl hyn yr ymofynnodd Dafydd â'r Arglwydd, gan ddywedyd, A af fi i fyny i'r un o ddinasoedd Jwda? A'r Arglwydd a ddywedodd wrtho ef, Dos i fyny. A dywedodd Dafydd, I ba le yr af i fyny? Dywedodd yntau, I Hebron.
2. A Dafydd a aeth i fyny yno, a'i ddwy wraig hefyd, Ahinoam y Jesreeles, ac Abigail gwraig Nabal y Carmeliad.
3. A Dafydd a ddug i fyny ei wŷr y rhai oedd gydag ef, pob un â'i deulu: a hwy a arosasant yn ninasoedd Hebron.
4. A gwŷr Jwda a ddaethant, ac a eneiniasant Dafydd yno yn frenin ar dŷ Jwda. A mynegasant i Dafydd, gan ddywedyd, mai gwŷr Jabes Gilead a gladdasent Saul.
5. A Dafydd a anfonodd genhadau at wŷr Jabes Gilead, ac a ddywedodd wrthynt, Bendigedig ydych chwi gan yr Arglwydd, y rhai a wnaethoch y drugaredd hon â'ch arglwydd Saul, ac a'i claddasoch ef.
6. Ac yn awr yr Arglwydd a wnelo â chwi drugaredd a gwirionedd: minnau hefyd a dalaf i chwi am y daioni hwn, oblegid i chwi wneuthur y peth hyn.
7. Yn awr gan hynny ymnerthed eich dwylo, a byddwch feibion grymus: canys marw a fu eich arglwydd Saul, a thŷ Jwda a'm heneiniasant innau yn frenin arnynt.
8. Ond Abner mab Ner, tywysog y filwriaeth oedd gan Saul, a gymerth Isboseth mab Saul, ac a'i dug ef drosodd i Mahanaim;
9. Ac efe a'i gosododd ef yn frenin ar Gilead, ac ar yr Assuriaid, ac ar Jesreel, ac ar Effraim, ac ar Benjamin, ac ar holl Israel.