Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 19:8-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. Yna y brenin a gyfododd, ac a eisteddodd yn y porth. A mynegwyd i'r holl bobl, gan ddywedyd, Wele y brenin yn eistedd yn y porth. A'r holl bobl a ddaethant o flaen y brenin: canys Israel a ffoesai bob un i'w babell.

9. Ac yr oedd yr holl bobl yn ymryson trwy holl lwythau Israel, gan ddywedyd, Y brenin a'n gwaredodd ni o law ein gelynion, ac efe a'n gwaredodd ni o law y Philistiaid; ac yn awr efe a ffodd o'r wlad rhag Absalom.

10. Ac Absalom, yr hwn a eneiniasom ni arnom, a fu farw mewn rhyfel: ac yn awr paham yr ydych heb sôn am gyrchu y brenin drachefn?

11. A'r brenin Dafydd a anfonodd at Sadoc ac at Abiathar yr offeiriaid, gan ddywedyd, Lleferwch wrth henuriaid Jwda, gan ddywedyd, Paham yr ydych chwi olaf i ddwyn y brenin yn ei ôl i'w dŷ? canys gair holl Israel a ddaeth at y brenin, hyd ei dŷ.

12. Fy mrodyr ydych chwi; fy asgwrn a'm cnawd ydych chwi: paham gan hynny yr ydych yn olaf i ddwyn y brenin adref?

13. Dywedwch hefyd wrth Amasa, Onid fy asgwrn i a'm cnawd wyt ti? Fel hyn y gwnelo Duw i mi, ac fel hyn y chwanego, onid tywysog y llu fyddi di ger fy mron i yn lle Joab byth.

14. Ac efe a drodd galon holl wŷr Jwda, fel calon un gŵr: a hwy a anfonasant at y brenin, gan ddywedyd, Dychwel di a'th holl weision.

15. Felly y brenin a ddychwelodd, ac a ddaeth i'r Iorddonen. A Jwda a ddaeth i Gilgal, i fyned i gyfarfod â'r brenin, i ddwyn y brenin dros yr Iorddonen.

16. A Simei mab Gera, mab Jemini, yr hwn oedd o Bahurim, a frysiodd, ac a ddaeth i waered gyda gwŷr Jwda, i gyfarfod â'r brenin Dafydd.

17. A mil o wŷr o Benjamin oedd gydag ef; Siba hefyd gwas tŷ Saul, a'i bymtheng mab a'i ugain gwas gydag ef: a hwy a aethant dros yr Iorddonen o flaen y brenin.

18. Ac ysgraff a aeth drosodd i ddwyn trwodd dylwyth y brenin, ac i wneuthur yr hyn fyddai da yn ei olwg ef. A Simei mab Gera a syrthiodd gerbron y brenin, pan ddaeth efe dros yr Iorddonen;

19. Ac a ddywedodd wrth y brenin, Na ddanoded fy arglwydd i mi anwiredd, ac na chofia yr hyn a wnaeth dy was yn anwir y dydd yr aeth fy arglwydd frenin o Jerwsalem, i osod o'r brenin hynny at ei galon.

20. Canys dy was sydd yn cydnabod bechu ohonof fi: ac wele, deuthum heddiw yn gyntaf o holl dŷ Joseff, i ddyfod i waered i gyfarfod â'm harglwydd frenin.

21. Ac Abisai mab Serfia a atebodd, ac a ddywedodd, Ai oherwydd hyn ni roddir Simei i farwolaeth, am iddo felltithio eneiniog yr Arglwydd?

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 19