Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 19:17-30 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

17. A mil o wŷr o Benjamin oedd gydag ef; Siba hefyd gwas tŷ Saul, a'i bymtheng mab a'i ugain gwas gydag ef: a hwy a aethant dros yr Iorddonen o flaen y brenin.

18. Ac ysgraff a aeth drosodd i ddwyn trwodd dylwyth y brenin, ac i wneuthur yr hyn fyddai da yn ei olwg ef. A Simei mab Gera a syrthiodd gerbron y brenin, pan ddaeth efe dros yr Iorddonen;

19. Ac a ddywedodd wrth y brenin, Na ddanoded fy arglwydd i mi anwiredd, ac na chofia yr hyn a wnaeth dy was yn anwir y dydd yr aeth fy arglwydd frenin o Jerwsalem, i osod o'r brenin hynny at ei galon.

20. Canys dy was sydd yn cydnabod bechu ohonof fi: ac wele, deuthum heddiw yn gyntaf o holl dŷ Joseff, i ddyfod i waered i gyfarfod â'm harglwydd frenin.

21. Ac Abisai mab Serfia a atebodd, ac a ddywedodd, Ai oherwydd hyn ni roddir Simei i farwolaeth, am iddo felltithio eneiniog yr Arglwydd?

22. A dywedodd Dafydd, Beth sydd i mi a wnelwyf â chwi, meibion Serfia, fel y byddech i mi yn wrthwynebwyr heddiw? a roddir i farwolaeth heddiw neb yn Israel? canys oni wn i, mai heddiw yr ydwyf fi yn frenin ar Israel?

23. A'r brenin a ddywedodd wrth Simei, Ni byddi di farw: a'r brenin a dyngodd wrtho ef.

24. Meffiboseth mab Saul hefyd a ddaeth i waered i gyfarfod â'r brenin; ac ni olchasai efe ei draed, ac ni thorasai ei farf, ac ni olchasai ei ddillad, er y dydd yr aethai'r brenin hyd y dydd y daeth efe drachefn mewn heddwch.

25. A phan ddaeth efe i Jerwsalem i gyfarfod â'r brenin, yna y dywedodd y brenin wrtho ef, Paham nad aethost ti gyda mi, Meffiboseth?

26. Ac efe a ddywedodd, Fy arglwydd frenin, fy ngwas a'm twyllodd i: canys dywedodd dy was, Cyfrwyaf i mi asyn, fel y marchogwyf arno, ac yr elwyf at y brenin; oherwydd cloff yw dy was.

27. Ac efe a enllibiodd dy was wrth fy arglwydd frenin; ond fy arglwydd frenin sydd fel angel Duw: am hynny gwna yr hyn fyddo da yn dy olwg.

28. Canys nid oedd holl dŷ fy nhad i ond dynion meirw gerbron fy arglwydd y brenin; eto tydi a osodaist dy was ymhlith y rhai oedd yn bwyta ar dy fwrdd dy hun: pa gyfiawnder gan hynny sydd i mi bellach i weiddi mwy ar y brenin?

29. A'r brenin a ddywedodd wrtho, I ba beth yr adroddi dy faterion ymhellach? dywedais, Ti a Siba rhennwch y tir.

30. A Meffiboseth a ddywedodd wrth y brenin, Ie, cymered efe y cwbl, gan ddyfod fy arglwydd frenin i'w dŷ mewn heddwch.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 19