Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 18:14-32 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. Yna y dywedodd Joab, Nid arhoaf fel hyn gyda thi. Ac efe a gymerth dair o bicellau yn ei law, ac a'u brathodd trwy galon Absalom, ac efe eto yn fyw yng nghanol y dderwen.

15. A'r deg llanc y rhai oedd yn dwyn arfau Joab a amgylchynasant, ac a drawsant Absalom, ac a'i lladdasant ef.

16. A Joab a utganodd mewn utgorn; a'r bobl a ddychwelodd o erlid ar ôl Israel: canys Joab a ataliodd y bobl.

17. A hwy a gymerasant Absalom, ac a'i bwriasant ef mewn ffos fawr yn y coed, ac a osodasant arno garnedd gerrig fawr iawn: a holl Israel a ffoesant bob un i'w babell.

18. Ac Absalom a gymerasai ac a osodasai iddo yn ei fywyd golofn, yn nyffryn y brenin: canys efe a ddywedodd, Nid oes fab gennyf i wneuthur coffa am fy enw: ac efe a alwodd y golofn ar ei enw ei hun. A hi a elwir Lle Absalom, hyd y dydd hwn.

19. Yna Ahimaas mab Sadoc a ddywedodd, Gad i mi redeg yn awr, a mynegi i'r brenin, ddarfod i'r Arglwydd ei ddial ef ar ei elynion.

20. A Joab a ddywedodd wrtho ef, Ni byddi di yn genhadwr y dydd hwn, eithr mynegi ddiwrnod arall: ond heddiw ni byddi di gennad, oherwydd marw mab y brenin.

21. Yna y dywedodd Joab wrth Cusi, Dos, dywed i'r brenin yr hyn a welaist. A Chusi a ymgrymodd i Joab, ac a redodd.

22. Yna Ahimaas mab Sadoc a ddywedodd eilwaith wrth Joab, Beth bynnag a fyddo, gad i minnau, atolwg, redeg ar ôl Cusi. A dywedodd Joab, I ba beth y rhedi di, fy mab, gan nad oes gennyt genadwriaeth addas?

23. Ond beth bynnag a fyddo, eb efe, gad i mi redeg. A dywedodd yntau wrtho, Rhed. Felly Ahimaas a redodd ar hyd y gwastadedd, ac a aeth heibio i Cusi.

24. A Dafydd oedd yn eistedd rhwng y ddau borth: a'r gwyliedydd a aeth ar nen y porth ar y mur, ac a ddyrchafodd ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele ŵr yn rhedeg ei hunan.

25. A'r gwyliedydd a waeddodd, ac a fynegodd i'r brenin. A'r brenin a ddywedodd, Os ei hun y mae efe, cenadwriaeth sydd yn ei enau ef. Ac efe a ddaeth yn fuan, ac a nesaodd.

26. A'r gwyliedydd a ganfu ŵr arall yn rhedeg: a'r gwyliedydd a alwodd ar y porthor, ac a ddywedodd, Wele ŵr arall yn rhedeg ei hunan. A dywedodd y brenin, Hwn hefyd sydd gennad.

27. A'r gwyliedydd a ddywedodd, Yr ydwyf fi yn gweled rhediad y blaenaf fel rhediad Ahimaas mab Sadoc. A dywedodd y brenin, Gŵr da yw hwnnw, ac â chenadwriaeth dda y daw efe.

28. Ac Ahimaas a alwodd, ac a ddywedodd wrth y brenin, Heddwch: ac a ymgrymodd i lawr ar ei wyneb gerbron y brenin, ac a ddywedodd, Bendigedig fyddo yr Arglwydd dy Dduw, yr hwn a warchaeodd ar y gwŷr a gyfodasant eu llaw yn erbyn fy arglwydd frenin.

29. A'r brenin a ddywedodd, Ai dihangol y llanc Absalom? A dywedodd Ahimaas, Gwelais gythrwfl mawr, pan anfonodd Joab was y brenin, a'th was dithau, ond ni wybûm i beth ydoedd.

30. A'r brenin a ddywedodd, Tro heibio; saf yma. Ac efe a drodd heibio, ac a safodd.

31. Ac wele, Cusi a ddaeth. A dywedodd Cusi, Cenadwri, arglwydd frenin: canys yr Arglwydd a'th ddialodd di heddiw ar bawb a'r a ymgyfododd i'th erbyn.

32. A dywedodd y brenin wrth Cusi, A ddihangodd y llanc Absalom? A dywedodd Cusi, Fel y llanc hwnnw y byddo gelynion fy arglwydd frenin, a'r holl rai a ymgyfodant i'th erbyn di er niwed i ti.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 18