Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 18:1-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A Dafydd a gyfrifodd y bobl oedd gydag ef, ac a osododd arnynt hwy filwriaid a chanwriaid.

2. A Dafydd a anfonodd o'r bobl y drydedd ran dan law Joab, a'r drydedd ran dan law Abisai mab Serfia, brawd Joab, a'r drydedd ran dan law Ittai y Gethiad. A'r brenin a ddywedodd wrth y bobl, Gan fyned yr af finnau hefyd gyda chwi.

3. Ond y bobl a atebodd, Nid ei di allan: canys os gan ffoi y ffown ni, ni osodant hwy eu meddwl arnom ni; ac os bydd marw ein hanner ni, ni osodant eu meddwl arnom: ond yn awr yr ydwyt ti fel deng mil ohonom ni: yn awr gan hynny gwell yw i ti fod i'n cynorthwyo ni o'r ddinas.

4. A dywedodd y brenin wrthynt hwy, Gwnaf yr hyn fyddo da yn eich golwg chwi. A'r brenin a safodd gerllaw y porth; a'r holl bobl a aethant allan yn gannoedd ac yn filoedd.

5. A'r brenin a orchmynnodd i Joab, ac Abisai, ac Ittai, gan ddywedyd, Byddwch esmwyth, er fy mwyn i, wrth y llanc Absalom. A'r holl bobl a glywsant pan orchmynnodd y brenin i'r holl flaenoriaid yn achos Absalom.

6. Felly yr aeth y bobl i'r maes i gyfarfod Israel: a'r rhyfel fu yng nghoed Effraim.

7. Ac yno y lladdwyd pobl Israel o flaen gweision Dafydd: ac yno y bu lladdfa fawr y dwthwn hwnnw, sef ugain mil.

8. Canys y rhyfel oedd yno wedi gwasgaru ar hyd wyneb yr holl wlad: a'r coed a ddifethodd fwy o'r bobl nag a ddifethodd y cleddyf y diwrnod hwnnw.

9. Ac Absalom a gyfarfu â gweision Dafydd yn eu hwyneb. Ac Absalom oedd yn marchogaeth ar ful, a'r mul a aeth dan dewfrig derwen fawr, a'i ben ef a lynodd yn y dderwen: felly yr oedd efe rhwng y nefoedd a'r ddaear; a'r mul oedd dano ef a aeth ymaith.

10. A rhyw un a ganfu hynny, ac a fynegodd i Joab, ac a ddywedodd, Wele, gwelais Absalom ynghrog mewn derwen.

11. A dywedodd Joab wrth y gŵr oedd yn mynegi iddo, Ac wele, ti a'i gwelaist ef; paham nas trewaist ef yno i'r llawr, ac arnaf fi roddi i ti ddeg sicl o arian, ac un gwregys?

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 18