Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 17:1-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Dywedodd Ahitoffel hefyd wrth Absalom, Gad i mi yn awr ddewis deuddeng mil o wŷr, a mi a gyfodaf ac a erlidiaf ar ôl Dafydd y nos hon.

2. A mi a ddeuaf arno tra fyddo ef yn lluddedig, ac yn wan ei ddwylo, ac a'i brawychaf ef: a ffy yr holl bobl sydd gydag ef; a mi a drawaf y brenin yn unig.

3. A throaf yr holl bobl atat ti: megis pe dychwelai pob un, yw y gŵr yr ydwyt ti yn ei geisio: felly yr holl bobl fydd mewn heddwch.

4. A da fu'r peth yng ngolwg Absalom, ac yng ngolwg holl henuriaid Israel.

5. Yna y dywedodd Absalom, Galw yn awr hefyd ar Husai yr Arciad, a gwrandawn beth a ddywedo yntau hefyd.

6. A phan ddaeth Husai at Absalom, llefarodd Absalom wrtho ef, gan ddywedyd, Fel hyn y dywedodd Ahitoffel: a wnawn ni ei gyngor ef? onid e, dywed di.

7. A dywedodd Husai wrth Absalom, Nid da y cyngor a gynghorodd Ahitoffel y waith hon.

8. Canys, eb Husai, ti a wyddost am dy dad a'i wŷr, mai cryfion ydynt hwy, a chreulon eu meddwl, megis arth wedi colli ei chenawon yn y maes: dy dad hefyd sydd ryfelwr, ac nid erys efe dros nos gyda'r bobl.

9. Wele, yn awr y mae efe yn llechu mewn rhyw ogof, neu mewn rhyw le: a phan syrthio rhai ohonynt yn y dechrau, yna y bobl a glyw, ac a ddywed, Bu laddfa ymysg y bobl sydd ar ôl Absalom.

10. Yna yr un grymus, yr hwn y mae ei galon fel calon llew, a lwfrha: canys gŵyr holl Israel mai glew yw dy dad di, ac mai gwŷr grymus yw y rhai sydd gydag ef.

11. Am hynny y cynghoraf, lwyr gasglu atat ti holl Israel, o Dan hyd Beer‐seba, fel y tywod wrth y môr o amldra, a myned o'th wyneb di dy hun i'r rhyfel.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 17