13. Ac fel yr oedd Dafydd a'i wŷr yn myned ar hyd y ffordd, Simei yntau oedd yn myned ar hyd ystlys y mynydd, ar ei gyfer ef; ac fel yr oedd efe yn myned, efe a felltithiai, ac a daflai gerrig, ac a fwriai lwch i'w erbyn ef.
14. A daeth y brenin, a'r holl bobl oedd gydag ef, yn lluddedig, ac a orffwysodd yno.
15. Ac Absalom a'r holl bobl, gwŷr Israel, a ddaethant i Jerwsalem, ac Ahitoffel gydag ef.
16. A phan ddaeth Husai yr Arciad, cyfaill Dafydd, at Absalom, Husai a ddywedodd wrth Absalom, Byw fo'r brenin, byw fyddo'r brenin.
17. Ac Absalom a ddywedodd wrth Husai, Ai dyma dy garedigrwydd di i'th gyfaill? paham nad aethost ti gyda'th gyfaill?
18. A Husai a ddywedodd wrth Absalom, Nage; eithr yr hwn a ddewiso yr Arglwydd, a'r bobl yma, a holl wŷr Israel, eiddo ef fyddaf fi, a chydag ef yr arhosaf fi.
19. A phwy hefyd a wasanaethaf? onid gerbron ei fab ef? Megis y gwasanaethais gerbron dy dad di, felly y byddaf ger dy fron dithau.
20. Yna y dywedodd Absalom wrth Ahitoffel, Moeswch eich cyngor beth a wnawn ni.
21. Ac Ahitoffel a ddywedodd wrth Absalom, Dos i mewn at ordderchwragedd dy dad, y rhai a adawodd efe i gadw y tŷ: pan glywo holl Israel dy fod yn ffiaidd gan dy dad, yna y cryfheir llaw y rhai oll sydd gyda thi.