11. A Dafydd a ddywedodd wrth Abisai, ac wrth ei holl weision, Wele fy mab, yr hwn a ddaeth allan o'm hymysgaroedd i, yn ceisio fy einioes: ac yn awr pa faint mwy y cais y Benjaminiad hwn? Gadewch iddo, a melltithied: canys yr Arglwydd a archodd iddo.
12. Efallai yr edrych yr Arglwydd ar fy nghystudd i, ac y dyry yr Arglwydd i mi ddaioni am ei felltith ef y dydd hwn.
13. Ac fel yr oedd Dafydd a'i wŷr yn myned ar hyd y ffordd, Simei yntau oedd yn myned ar hyd ystlys y mynydd, ar ei gyfer ef; ac fel yr oedd efe yn myned, efe a felltithiai, ac a daflai gerrig, ac a fwriai lwch i'w erbyn ef.
14. A daeth y brenin, a'r holl bobl oedd gydag ef, yn lluddedig, ac a orffwysodd yno.
15. Ac Absalom a'r holl bobl, gwŷr Israel, a ddaethant i Jerwsalem, ac Ahitoffel gydag ef.
16. A phan ddaeth Husai yr Arciad, cyfaill Dafydd, at Absalom, Husai a ddywedodd wrth Absalom, Byw fo'r brenin, byw fyddo'r brenin.
17. Ac Absalom a ddywedodd wrth Husai, Ai dyma dy garedigrwydd di i'th gyfaill? paham nad aethost ti gyda'th gyfaill?
18. A Husai a ddywedodd wrth Absalom, Nage; eithr yr hwn a ddewiso yr Arglwydd, a'r bobl yma, a holl wŷr Israel, eiddo ef fyddaf fi, a chydag ef yr arhosaf fi.
19. A phwy hefyd a wasanaethaf? onid gerbron ei fab ef? Megis y gwasanaethais gerbron dy dad di, felly y byddaf ger dy fron dithau.
20. Yna y dywedodd Absalom wrth Ahitoffel, Moeswch eich cyngor beth a wnawn ni.
21. Ac Ahitoffel a ddywedodd wrth Absalom, Dos i mewn at ordderchwragedd dy dad, y rhai a adawodd efe i gadw y tŷ: pan glywo holl Israel dy fod yn ffiaidd gan dy dad, yna y cryfheir llaw y rhai oll sydd gyda thi.
22. Felly y taenasant i Absalom babell ar nen y tŷ: ac Absalom a aeth i mewn at ordderchwragedd ei dad, yng ngŵydd holl Israel.
23. A chyngor Ahitoffel, yr hwn a gynghorai efe yn y dyddiau hynny, oedd fel ped ymofynnai un â gair Duw: felly yr oedd holl gyngor Ahitoffel, gyda Dafydd a chydag Absalom.